I Oedolion
Gwneud Basged Ffrâm Gylch gyda Lewis Prosser
23 Gorffennaf - 23 Gorffennaf 2022
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf
11yb - 3yp
Mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr
£12
Eventbrite: Gwneud Basged Ffrâm Gylch
Gwneud Basged Ffrâm Gylch gyda Lewis Prosser
Cyfle i ddysgu sut i wneud basged ffrâm gylch yn y gweithdy undydd hwn yn Mission.
Gan ddefnyddio technegau cyn-Rufeinig ar gyfer gwneud basgedi helyg, bydd Lewis yn eich
arwain drwy’r broses o wneud y fasged nodweddiadol hon. Basged syml, cryf, cynaliadwy, ac
amlswyddogaethol. Mae’r fasged hon yn dweud cymaint am ein gorffennol a gall llywio sut
rydym yn mynd ati i wneud basgedi yn y dyfodol.
Byddwch yn dysgu’r canlynol: Sut mae gweithio gyda helyg, sut mae gwneud ffrâm gylch a’i
llenwi, a sut mae gwehyddu’r cwlwm ‘God’s Eye’.
Bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu, ond mae croeso i chi ddod â’ch sisyrnau
tocio eich hun os oes gennych chi rai.
Gwisgwch ddillad nad ydych chi'n poeni gormod am eu baeddu.
Mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr
Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk