I Oedolion

  • Header image

Gweithredoedd BachAngela Maddock

29 Hydref - 29 Hydref 2022


11am-2pm
Dydd Sadwrn 29 Hydref

 

Eventbrite: Gweithredoedd Bach

 


Bydd Angela yn rhannu’r cyd-destun a’r ysgogiad y tu ôl i’w hymarfer ac yn gwahodd cyfranogwyr i
archwilio – drwy weithredoedd bach o darfu ac ymyrryd – y gwerthoedd sydd ar waith yn eu
gwaith eu hunain. Drwy dechnegau fel rhwymo, lapio, stwffio a gwehyddu syml, byddwch yn
archwilio myfyrio mewn ymarfer i gynhyrchu syniadau creadigol newydd.
Bydd y cyfranogwyr yn gweithio’n annibynnol ac yn dychwelyd i’r grŵp i rannu darganfyddiadau. 


Bydd deunyddiau’n cael eu darparu, ond mae croeso i chi ddod ag adnodd neu ddeunydd arall sy’n
hanfodol i’ch ymarfer gyda chi.


Mae Angela Maddock yn artist sy’n defnyddio edau ac mae ganddi ddiddordeb mewn gofal,
atgyweirio, dal a chynnwys. Roedd Angela yn fyfyriwr mewn sylfaeni, dylunio patrymau arwyneb a
chelfyddydau cain yng Ngholeg Celf Abertawe. Roedd yn uwch ddarlithydd mewn astudiaethau
cyd-destunol ac yn rheoli’r cwrs MA Tecstilau Cyfoes. Mae hi’n parhau i fod yn gymrawd ymchwil
anrhydeddus mewn tecstilau gyda’r tîm Dylunio Patrymau Arwyneb. Mae ganddi PhD o’r Coleg
Celf Brenhinol, lle mae hefyd yn ddarlithydd gwadd ac mae’n Uwch Gymrawd Ymchwil
Anrhydeddus gyda Chyfadran y Celfyddydau a Dyniaethau yn King’s College, Llundain.

 


Cost – dewiswch o dri phris rhodd o £15, £25, a £35 ynghyd â ffi archebu.
Mae tri dewis o ran prisiau ar gael ar gyfer y tocynnau. Byddem yn gwerthfawrogi
petaech chi’n gallu ein cefnogi ni drwy brynu tocyn gyda’r cyfanswm rhodd mwyaf os
gallwch chi. Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi
artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.

 

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. 
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Ar hyn o bryd, nid yw ein hadeilad ar gael yn ddiogel i bobl sy’n defnyddio cadeiriau
olwyn neu sgwteri symudedd trydan. Rydyn ni’n ymddiheuro o waelod calon am hyn.
Mae’n fater rydyn ni’n gweithio arno. 
Ceir mynediad ar lefel gwastad drwy’r llawr gwaelod, sy’n cynnwys yr holl fannau
arddangos a’r siop.  
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar
risiau serth.  
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

 

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

<< Yn ôl tudalen