I Oedolion

  • Header image

Gweithdy torchi gyda Toni De Jesus

25 Tachwedd - 25 Tachwedd 2023

Dydd Sadwrn, 25 Tachwedd

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50

Gweithdy torchi gyda Toni De Jesus

Darperir lluniaeth

 

Ganed Toni De Jesus yn y Deyrnas Unedig ym 1995. Cafodd ei fagu ym Madeira, Portiwgal, a symudodd yn ôl i Loegr yn 2008. Dyma pryd cafodd ei gyflwyno i grochenwaith, a bu’n astudio cwrs sylfaen yn y maes hwn yn City College Brighton and Hove (2013-14). Aeth ymlaen i astudio yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (2015-18), gan raddio a sefydlu ei bractis.

 

Ers graddio, mae De Jesus wedi bod yn arddangos ei waith ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys arddangosfa FRESH yn British Ceramics Biennial (2019), lle dyfarnwyd Artist Preswyl Rhyngwladol Guldagergaard iddo (2021). Mae ei sioeau a’i arddangosfeydd yn cynnwys ffair gelf COLLECT gyda Chanolfan Grefft Rhuthun (2021-22), Ceramic Art London (2022), ac wedi arddangos yn rhyngwladol yn Galeria dos Prazeres, ‘Vaso de Altar’ (2020), ‘Pela Paisagem Dividida, Retalhada’ (2021), Portiwgal. Yn fwy diweddar, cafodd ei arddangosfa unigol gyntaf, ‘Cacúlo’, ym Museu de Arte Contemporâneo da Madeira – MUDAS, Portiwgal (2023)

 

Mae De Jesus wrthi’n gweithio yn Fireworks Clay Studios, Caerdydd, gyda chasgliad toreithiog o grochenwyr. Mae De Jesus yng nghanol cynhyrchu casgliad ar gyfer mis Rhagfyr, a gynrychiolir gan J. Lohmann Gallery yn Design Miami.

 

Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i roi cynnig ar dorchi llestr â llaw gan ddefnyddio teracota. Bydd Toni’n defnyddio ei dechnegau sy’n nodweddu’r gwaith y mae’n ei greu. Bydd y darnau gorffenedig yn cael eu tanio yn stiwdio Toni, a byddant yn cael eu dychwelyd i Oriel Mission i’w casglu.

Eventbrite: Gweithdy torchi gyda Toni De Jesus

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol.

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen