I Oedolion

  • Header image

Gweithdy: Basgedi Gwaelod CrwnLewis Prosser

01 Ebrill - 01 Ebrill 2023

 

Dydd Sadwrn 1 Ebrill


11am – 3pm

 

Eventbrite: Basgedi Gwaelod Crwn

 

Gweithdy: Basgedi Gwaelod Crwn gyda Lewis Prosser

Ar y gweithdy undydd hwn, byddwch yn dysgu technegau allweddol gwneud basgedi
helyg traddodiadol. Byddwch yn dysgu sut i wehyddu sylfaen ac ychwanegu ochrau
a border addurnol. Cewch wneud basged amlbwrpas a darganfod posibiliadau
gwehyddu helyg.


Mae hwn yn gwrs lefel dechreuwr ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o
wehyddu basgedi. Bydd angen i chi gael deheurwydd llaw da. Bydd offer a
deunyddiau’n cael eu darparu. Weithiau, gall gwehyddu fod yn fudr, felly gwisgwch
ddillad nad ydych chi’n poeni gormod am eu baeddu.


Mae Lewis Prosser yn artist ac yn wneuthurwr basgedi sy’n byw yn Ne Cymru.
Mae’n defnyddio gwneud basgedi, perfformio a dylunio gwisgoedd i archwilio
syniadau am ddefod, treftadaeth a llafur yn Ynysoedd Prydain a’r cyffiniau.


Cost – graddfa symudol 
Hoffem i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl a gofynnwn i chi dalu beth allwch chi.
Ystyriwch gyfrannu mwy i gefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission
yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Darperir y nwyddau i chi a rhaid i chi archebu eich lle oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr at ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn yr ystafell addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae grisiau serth yn mynd at yr ystafell addysg ar y llawr cyntaf.  Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.  

Gall y dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd oherwydd yr amgylchiadau rydym yn gweithredu ynddynt. Er hyn, byddwn yn eich rhybuddio mor fuan â phosib os oes angen.

<< Yn ôl tudalen