I Oedolion

  • Header image

Dosbarth Meistr Enamlo gyda Kathryn WillisMewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe, PCyDDS a Chymdeithas Gemwaith Cyfoes

05 Rhagfyr - 05 Rhagfyr 2022


Dosbarth Meistr Enamlo gyda Kathryn Willis

Dyddiad: 05 Rhagfyr 2022

Amser: 10am - 4pm

Lleoliad: Coleg Celf Abertawe, UWTSD

Pris: £35 y person

 

Dilynwch y ddolen isod i archebu lle

Eventbrite: Dosbarth Meistr Enamlo gyda Kathryn Willis

 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

Archwilio amrywiaeth o dechnegau enamlo gwydrog i greu lliw a phatrwm ar arwynebau metel.

Cewch gyfle i greu samplau copr wedi’u tanio mewn odyn ac archwilio sifftio, stensilau, gweadau, enamel hylifol, sgraffito, printio sgrin a phaentio. Bydd enghreifftiau o waith yr artist sy’n ymgorffori’r technegau hyn ar gael a bydd Kathryn hefyd yn trafod dulliau mowntio addas ar gyfer gemwaith.

 

Lefel:

Mae’n agored i bob lefel o wneuthurwyr gemwaith, ond mae’n fwy addas i’r rheini sydd â rhywfaint o sgiliau metel sylfaenol o ran tyllu â llif, anelio, sodro a ffurfio. Does dim angen unrhyw brofiad o enamlo.

 

Sut i gofrestru:

Dim ond tri lle â chymhorthdal sydd ar gael am bris arbennig o £35. Bydd llefydd yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Archebwch eich lle trwy eventbrite.

  

Mae angen i chi ddod â’r canlynol:

  • Ffedog, masg llwch, sbectolau diogelwch (os oes gennych chi rai), esgidiau cadarn os gwelwch yn dda, dim sandalau.
  • Lluniadau neu luniau i gael ysbrydoliaeth, gallai fod ar gyfer patrwm, gwead neu liw.

 

Os oes gennych chi unrhyw un o’r canlynol, byddai’n ddefnyddiol, ond bydd gan Kathryn  yr eitemau hyn os na fyddwch chi’n gallu dod â rhai eich hun:

 

• Eitemau o’r cartref a fyddai’n gwneud stensil da fel les, doilis papur, rhwyll, gwastraff plastig, neu stensiliau papur wedi’u torri

• Teilsen gwydr gwyn/trwchus a chyllell balet fach ar gyfer cymysgu cyfrwng a phigmentau.

• Tiwbiau plastig bach y gellir eu selio neu jariau jam dogn unigol

• Mat crefft / hambwrdd / bwrdd torri plastig i weithio arno.

• Sbwng cegin dwy ochr ( sbwng melyn/crafwr gwyrdd).

• Papur cegin.

• Tâp masgio

• Hen gardiau credyd ar gyfer sgrinio.

• Brwshys paent – dewch â gwahanol feintiau gyda chi.

• Ffyn coctel a phinnau – ar gyfer effeithiau sgraffito.

• Pennau, pensil, pren mesur, siswrn, papur, cyllell grefft.

• Gall sbyngau dotwaith bach a stampiau crefft fod yn ddefnyddiol – dewch â nhw os oes gennych chi rai.

• Os oes gennych chi unrhyw ddarnau copr heb eu sodro yr hoffech chi eu henamlo – dewch â nhw gyda chi

 

<< Yn ôl tudalen