I Oedolion

  • Header image

Doli Sion Corn: Gweithdy creu doli wellt gyda Lewis Prosser

03 Rhagfyr - 03 Rhagfyr 2023

Dydd Sul, 3 Rhagfyr

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50

Doli Sion Corn: Gweithdy creu doli wellt gyda Lewis Prosser

Darperir lluniaeth Nadoligaidd

 

Mae Lewis Prosser yn wneuthurwr basgedi abswrdaidd ym Mhenarth, ac mae ei waith yn ymwneud â’r berthynas rhwng gwrthrych ac adloniant. Yn seiliedig ar dechnegau crefft treftadaeth, mae’n llunio gweithiau celf cynaliadwy gyda deunyddiau organig lleol.

 

Dysgwch sut i wehyddu doli wellt, mewn arddull sy’n gweddu i dymor y Nadolig. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn creu amrywiaeth o ddoliau gwellt arbennig, gan ddefnyddio mathau o helyg treftadaeth sy’n berffaith fel addurniadau ac anrhegion i lenwi hosanau Nadolig.

 

Mae creu doliau gwellt yn draddodiad hirsefydlog yn Ynysoedd Prydain. Yn draddodiadol, maent yn creu’r doliau i nodi’r cynhaeaf. Yn y sesiwn hon, byddwch yn edrych ar y llên gwerin a’r technegau gwehyddu, gan ddefnyddio helyg (sy’n cael ei chynaeafu’n draddodiadol rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror). Yn y gweithdy hwn, byddwch yn dysgu sut i ddechrau a chwblhau eich creadigaethau, penderfynu ar siâp a maint eich dyluniadau, dylunio jigiau pren, ac addasu’r gwead ar gyfer gwahanol adegau a thymhorau.

 

Bydd y darnau gorffenedig yn berffaith ar gyfer addurniadau Nadolig, teganau ratl, offer bwydo adar, addurniadau bwrdd, a mwy. Bydd gennych hefyd y dewis i wehyddu o amgylch gwrthrychau.

 

Does dim angen profiad blaenorol o wehyddu. Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer i chi. Cofiwch fod gwehyddu â helyg yn gofyn am ddeheurwydd, a gall fod yn galed ar y dwylo

 Eventbrite: Doli Sion Corn: Gweithdy creu doli wellt gyda Lewis Prosser

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen