I Oedolion
Cyflwyniad i Argraffu ColagraffMarian Haf
18 Medi - 18 Medi 2021
Cost £30
Gweithdy undydd
10yb - 4yp
Ar gyfer 16+ oed
Eventbrite: Cyflwyniad i Argraffu Colagraff
Cyflwyniad i argraffu colagraff intaglio - gadewch i mi’ch tywys drwy fy mhroses a dulliau argraffu.
Bydd y cwrs undydd yma’n rhoi’r wybodaeth i chi am sut i droi darn o fwrdd mowntio’n brint intaglio hardd a chain, yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sy’n hen lawiau ar wneud printiau ac sydd am fentro ymhellach i fyd colagraffeg.
Erbyn diwedd y dydd byddwch wedi dysgu
• Sut i baratoi a throsi delwedd yn golagraff intaglio.
• Sut i drin a thrafod y plât (bwrdd mowntio) gyda gwahanol offer a thechnegau i greu arlliwiau amrywiol ynghyd â marciau llinol cyferbyniol.
• Sut i incio plât intaglio lle rhoddir yr inc yn hael a’i sgleinio i ffwrdd wedyn.
• Pa bapur i’w ddewis a sut i’w baratoi ynghyd ag iawnlinio’r plât ac arferion gwaith da er mwyn sicrhau canlyniad glân.
• Argraffu gyda gwasg.
• Dylunio, gwneud, incio ac argraffu colagraff intaglio.
Dw i’n edrych ymlaen yn arw at rannu fy mhroses â chi.
Marian x
Yn addas i ddechreuwyr a gwneuthurwyr printiau mwy profiadol.
Cynhelir y gweithdy hwn yn Oriel Mission.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, megan@missiongallery.co.uk