I Oedolion
Cyflwyniad ar Greu MosaigNese ac Armagan Aydin
21 Tachwedd - 05 Rhagfyr 2022
Diwrnod 1 26 Tachwedd 11am - 3pm
Diwrnod 2 3 Rhagfyr yn cychwyn am 11am, amser i gwblhau eich mosaig ac ychwanegu growt.
Dilynwch y ddolen isod i archebu lle
Eventbrite: Cyflwyniad ar Greu Mosaig
Ymunwch â’r artistiaid mosaig Nese ac Armagan Aydin er mwyn cael cyflwyniad ar greu mosaig.
Mewn gweithdy ymarferol â dwy ran, byddwch yn creu eich dyluniad eich hun, yn dysgu sut i dorri teiliau mosaig i siâp ac yn cwblhau eich darn gyda growt.
Yn addas ar gyfer dechreuwyr
Mae tri dewis o ran prisiau ar gael ar gyfer y tocynnau i’r gweithdy hwn, ac maent i gyd yn is na’r gwerth adwerthu. Byddem yn gwerthfawrogi petaech chi’n gallu ein cefnogi ni drwy brynu tocyn sydd â’r cyfanswm rhodd mwyaf os gallwch chi. Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.
______________________________
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Darperir y nwyddau i chi a rhaid i chi archebu eich lle oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr at ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn yr ystafell addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae grisiau serth yn mynd at yr ystafell addysg ar y llawr cyntaf. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
Gall y dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd oherwydd yr amgylchiadau rydym yn gweithredu ynddynt. Er hyn, byddwn yn eich rhybuddio mor fuan â phosib os oes angen.