I Oedolion
Creu gemwaith â Phlastig wedi’i AilbwrpasuBronwen Gwillim
20 Tachwedd - 20 Tachwedd 2022
11am - 3pm
Cost – cewch ddewis roi rhodd o naill ai £25, £35 neu £45 ynghyd â ffi archebu.
Mae tri dewis o ran prisiau ar gael ar gyfer y tocynnau i’r gweithdy hwn, ac maent i gyd yn is na’r gwerth adwerthu. Byddem yn gwerthfawrogi petaech chi’n gallu ein cefnogi ni drwy brynu tocyn sydd â’r cyfanswm rhodd mwyaf os gallwch chi. Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.
Eventbrite: Creu gemwaith â Phlastig wedi’i Ailbwrpasu
Gwybodaeth am y gweithdy undydd :
Yn ystod y dydd bydd y cyfranogwyr yn dysgu mwy am blastigion, o ran mathau a nodweddion, sydd ar gael fel gwastraff, yn ogystal â llu o dechnegau diogel, rhai’n defnyddio gwres a rhai heb ddefnyddio gwres, a all gael eu defnyddio i greu gemwaith ac ati.
Bydd y sesiynau yn cynnwys sgyrsiau byr, arddangosiadau ymarferol a digonedd o amser i greu ac arbrofi. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sgiliau a chael dealltwriaeth newydd o sut i ddefnyddio gwastraff plastig yn ddiogel, yn ogystal â chael darnau hyfryd a lliwgar o emwaith i’w gwisgo.
Mae Bronwen yn artist a gemydd gwobrwyedig, a chafodd ei hyfforddi yn Ysgol Gelf Sir John Cass, Camberwell a Phrifysgol Bath Spa ble archwiliodd i’r defnydd o wastraff plastig fel rhan o’i MA. Mae hi’n athrawes gymwys a phrofiadol ac wedi arddangos yn eang (gan gynnwys ym Mharc Cerfluniau Swydd Efrog, Llantarnam Grange, Crefft yn y Bae). Mae hi’n aelod dethol yn Design Nation, Findamaker a’r Crafts Council.
Plastig y mae Bronwen yn ei hel ar draethau Sir Benfro, ble mae hi’n byw, sydd yn cael eu defnyddio i wneud ei gemwaith beiddgar a chyfoes. Mae hi’n cael ei hysbrydoli gan ffurfiau naturiol a marciau a grëwyd gan wynt, tonnau a dŵr.
Waeth pa mor brofiadol neu hyderus yw pobl, mae hi’n cael boddhad mawr trwy ddysgu a cheisia i gefnogi pawb i arbrofi, chwarae a dysgu sgiliau newydd. Er y siom bod digonedd o wastraff plastig ar gael, mae’n ddeunydd sy’n gallu ysbrydoli unrhyw un!!
__________________________________________
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Darperir y nwyddau i chi a rhaid i chi archebu eich lle oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr at ein prif fynedfa. Cynhelir y gweithdai yn yr ystafell addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae grisiau serth yn mynd at yr ystafell addysg ar y llawr cyntaf. Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.
Gall y dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd oherwydd yr amgylchiadau rydym yn gweithredu ynddynt. Er hyn, byddwn yn eich rhybuddio mor fuan â phosib os oes angen.