I Oedolion

  • Header image

Creu Cyfres o Weithdai

05 Hydref - 26 Hydref 2022

05 Hydref - 26 Hydref 2022


Ymunwch â ni yn Oriel Mission am gyfres o weithdai creadigol dan arweiniad Euros
Rowlands. Byddwch yn dysgu amrywiaeth o dechnegau celf wrth dderbyn cefnogaeth a
chyngor i ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd cyfeillgar a hamddenol. Mae’n
addas ar gyfer dechreuwyr a’r rheini sydd â mwy o brofiad celfyddydol.

 

Eventbrite: Creu Cyfres o Weithdai

 

 

Mae Euros Rowlands wedi’i leoli yn Abertawe ac ar hyn o bryd mae’n gweithio o
stiwdios Elysium. Mae’n gweithio’n bennaf mewn cyfuniad o baent a collage digidol, ac
mae hefyd yn dysgu celf yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Mae Euros yn siarad Cymraeg yn
rhugl, felly os byddai’n well gennych i’r sesiynau gael eu cyflwyno’n ddwyieithog,
rhowch wybod i ni.
@eurosrowlands
https://www.eurosrowlands.com
 
Cynhelir y cwrs ar ddydd Mercher rhwng 6-8pm.
Dydd Mercher 5 Hydref
Dydd Mercher 12 Hydref
Dydd Mercher 19 Hydref
Dydd Mercher 26 Hydref
 
Cost £40 a ffi archebu.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. 
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Ar hyn o bryd, nid yw ein hadeilad ar gael yn ddiogel i bobl sy’n defnyddio cadeiriau
olwyn neu sgwteri symudedd trydan. Rydyn ni’n ymddiheuro o waelod calon am hyn.
Mae’n fater rydyn ni’n gweithio arno. 
Ceir mynediad ar lefel gwastad drwy’r llawr gwaelod, sy’n cynnwys yr holl fannau
arddangos a’r siop.  
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar
risiau serth.  
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen