I Oedolion

  • Header image

Cerflun papur Clare Pentlow

15 Hydref - 15 Hydref 2022

11am - 3pm

 

Eventbrite: Ceflun papur

 


Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer gweithdy dan arweiniad yr artist Clare
Pentlow, sy’n cael ei ddangos ar hyn o bryd yn ein harddangosfa Into the studio.
Mae Clare yn mwynhau herio’r canfyddiad o bapur fel deunydd arferol, gan ei
drawsnewid i fod yn anhygoel. Mae hi’n cael ei hysbrydoli’n barhaus gan batrymau a
lliwiau ym myd natur, yn enwedig ar lefel microsgopig. Mae’n ymddangos bod ei
harddull unigryw ei hun o dorri papur yn rhoi gwead gwlanog i’r papur.


Ymunwch â Clare wrth iddi rannu ei chariad at bapur, gan droi dalen syml wastad yn
rhywbeth rhyfeddol drwy dorri â llaw a phlygu. Byddwch yn magu hyder wrth
ddefnyddio ffleimiau a thorri llinellau glân, gan roi cynnig ar wahanol dechnegau a
dyluniadau. Bydd Clare yn eich annog i archwilio ac arbrofi, gan ddechrau ar eich
taith eich hun i greu darn unigryw o gelf papur.


Deunyddiau ac offer wedi’u cynnwys.


Cost – dewiswch o dri phris rhodd o £15, £25, a £35 ynghyd â ffi archebu.
Mae tri dewis o ran prisiau ar gael ar gyfer y tocynnau. Byddem yn gwerthfawrogi
petaech chi’n gallu ein cefnogi ni drwy brynu tocyn gyda’r cyfanswm rhodd mwyaf os
gallwch chi. Mae’r holl arian a godir yn ein gweithdai yn cael ei ddefnyddio i gefnogi
artistiaid ac i barhau â’n rhaglenni ymgysylltu ac allgymorth.

 

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa. 
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Ar hyn o bryd, nid yw ein hadeilad ar gael yn ddiogel i bobl sy’n defnyddio cadeiriau
olwyn neu sgwteri symudedd trydan. Rydyn ni’n ymddiheuro o waelod calon am hyn.
Mae’n fater rydyn ni’n gweithio arno. 
Ceir mynediad ar lefel gwastad drwy’r llawr gwaelod, sy’n cynnwys yr holl fannau
arddangos a’r siop.  
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar
risiau serth.  
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.


Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk


<< Yn ôl tudalen