I Oedolion
Celf perfformio gyda Nancy EllisNancy Ellis
09 Ebrill - 09 Ebrill 2022
Dydd Sadwrn 09 April
11am - 3pm
£10
Eventbrite: Celf perfformio gyda Nancy Ellis
Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi mewn ffordd unigryw sut y gall celf a’r theatr ddod at ei gilydd i greu rhywbeth sy’n cael effaith fawr ar gynulleidfa a chrewyr. Bydd y sesiwn diwrnod cyfan hwn yn eich cyflwyno i arddull a fydd o bosibl yn newydd i chi, a bydd yn rhoi cyfle i chi fynegi eich hun a’ch barn drwy greu darn o waith y gallwch fod yn falch ohono, ac sy’n herio confensiwn ac yn gwthio ffiniau.
Bydd sgiliau y byddwch yn dod â hwy at y bwrdd yn cael eu defnyddio, eu gwella a’u dathlu. Beth bynnag rydych yn ei wneud – trin geiriau neu baentio – a beth bynnag eich gallu neu brofiad, gallwch gymryd rhan! Mae hwn yn lle diogel, heb unrhyw bwysau, ar gyfer unrhyw un sydd â llais i’w glywed a brwdfrydedd i ddysgu a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Os hoffech ddod â rhywbeth gyda chi i’r gweithdy – rhywbeth rydych yn meddwl y gallai ychwanegu at yr archwiliad – mae croeso i chi wneud hynny.
Dylech wisgo dillad ac esgidiau cyfforddus oherwydd bydd hwn yn weithdy corfforol a byddwch yn symud o gwmpas ac yn gwneud llawer o ddefnydd o’ch corff. Yn ogystal â hyn, dillad na fyddwch yn poeni os byddant yn baeddu, gan y byddwn yn chwarae â phaent.
Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohonynt, gall dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd ag y gallwn ni i chi os bydd hyn yn angenrheidiol.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk