I Oedolion

  • Header image

Caru Crefft – Gweithdy Menig heb FyseddElin Manon

04 Chwefror - 04 Chwefror 2024

Dydd Sul, 4 Chwefror 2024

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50

Caru Crefft – Gweithdy Menig heb Fysedd gydag Elin Manon

Darperir lluniaeth

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

 

Cafodd y cwmni Elin Manon ei sefydlu yn ne Cymru yn 2018, gyda’r bwriad o ddarparu dillad cylchol, crefftus ac â chymeriad. Yn darparu dillad gwau ac ategolion o ansawdd uchel, mae ei dyluniadau’n cael eu hysbrydoli gan hiraeth a threftadaeth Cymru, ac yn cael eu creu gan decstilau moethus dros ben. Mae ei gwaith yn profi bod cynaliadwyedd a steil eclectig yn mynd law yn llaw. Mae’n gwneud pethau mewn ffordd unigryw, ac yn creu casgliadau bach mewn sypiau cyfyngedig er mwyn sicrhau gwerth ym mhob dilledyn.

Gyda’r gweithdy’n cael ei gynnal rhwng dathliadau Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant ar 14 Chwefror, dyma eich cyfle i fynd ar daith greadigol i fyd ffasiwn cynaliadwy yn Oriel Mission, Abertawe. Ymunwch ag Elin Manon, y dylunydd a’r enaid y tu ôl i ElinManon.com, am brofiad ymarferol o greu menig heb fysedd sydd wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau diamser Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant.

Uchafbwyntiau’r Gweithdy:

Gan ddefnyddio gwlân Merino o ffynonellau moesegol, cewch gyfle i greu pâr o fenig pwrpasol eich hun. Bydd Elin yn datgelu dyluniad personol sydd wedi’i ysbrydoli gan lwyau caru a Santes Dwynwen, ac sy’n cynnwys elfennau unigryw o hanesion Cymru am dreftadaeth a chariad, yn gariad rhamantaidd, platonig neu hunan-gariad. Cewch gyfle i bersonoli eich menig gyda hyd at bedwar lliw i adlewyrchu eich steil personol.

Bydd Elin yno i’ch helpu drwy gydol y broses, gan eich tywys drwy’r grefft o greu menig o’r dechrau i’r diwedd.

Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i lunio ategolyn hardd a phersonol, ac i ymgolli ym myd crefftwaith cynaliadwy gydag Elin Manon. Cadwch eich lle nawr ar gyfer diwrnod llawn creadigrwydd a chysylltiad.

 

  Eventbrite: Gweithdy Menig heb Fysedd gydag Elin Manon

 

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen