I Oedolion

  • Header image

Arweiniad ar gerfio llwyau i ddechreuwyrLee John Phillips

06 Ebrill - 06 Ebrill 2024

Dydd Sadwrn, 6 Ebrill 2024

11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50

Arweiniad ar gerfio llwyau i ddechreuwyr gyda Lee John Phillips

Darperir lluniaeth

Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn

 

Mae Lee yn ddarlunydd, yn wneuthurwr ac yn diwtor llawrydd sy’n gweithio yn Sir Benfro.

Yn ei rôl fel cerfiwr, mae Lee wedi cael ei wahodd i gynnal gweithdai mewn digwyddiadau mawr fel Spoonfest a Bowl Gathering, ac yn ddiweddar mae wedi cael ei wahodd yn ôl i arctig Norwy i addysgu fel rhan o wyliau coginio. Mae hefyd yn cydweithio â gof i ddylunio ei fwyell unigryw ei hun.

Yn ei swydd bob dydd, mae Lee yn ddarlunydd technegol, yn gynllunydd, yn geidwad llyfr braslunio ac yn arlunydd. Yn ddiweddar, mae wedi cynorthwyo’r gwaith o ail-frandio Kettle Chips, hufen iâ Nuii, Bragdy Timothy Taylor a Snowdon Cheese, i enwi dim ond rhai. Mae wedi darlunio deg llyfr hyd yma, sy’n cynnwys llawlyfrau defnyddwyr, llyfrau lliwio i oedolion a thestunau addysgol.

Yn ei amser hamdden, mae’n darlunio'r holl offer sydd yng nghwt ei ddiweddar dad-cu. Mae wedi bod yn gweithio ar The Shed Project ers 2014, ac mae wedi darlunio bron i 9,000 o eitemau. Mae’n amcangyfrif bod hyn yn cyfrif am tua 10% o’r holl offer sydd yn y sied, ac mae’n dweud mai dyma yw prif waith ei fywyd.

Yn ddiweddar, mae Lee wedi prynu plot 3.5 erw o goetir collddail hynafol a fydd yn dod yn sylfaen fywiog ar gyfer darparu crefftau treftadaeth yng ngorllewin Cymru.

 

Bydd Lee yn dechrau’r gweithdy drwy eich cyflwyno i'r offer sylfaenol sydd eu hangen arnoch i greu llwy goginio ymarferol a phrydferth iawn. Byddwch yn trafod dewis a chaffael pren, gan ganolbwyntio ar y deunyddiau gorau ar gyfer cerfio, yn ogystal â phryderon iechyd a diogelwch i sicrhau eich bod yn gallu cerfio’n hyderus.

Bydd Lee wedyn yn trafod y broses o ddylunio llwyau a chyfarpar cegin, ac yn tynnu sylw at gyfeiriad y graen wrth ystyried eich gwaith eich hun. Drwy ddefnyddio technegau bwyellu, byddwch yn trawsnewid darn o goeden yn llwy sy’n barod i'w cherfio.

Byddwch yn dysgu technegau torri a sut i afael ar gyllell yn ddiogel, a fydd yn eich helpu i gerfio’n effeithlon ac yn effeithiol. Yna, byddwch yn cael eich cyflwyno i’r gyllell fachog, neu’r ‘gyllell lwy’, er mwyn cerfio pen y llwy.

Byddwch wedyn yn trafod technegau gorffen, ac yn ystyried, bwrneisio, oelio ac addurno – yn ogystal â hogi’r offer cerfio, sef un o agweddau pwysicaf y grefft.

 

Nid oes angen profiad blaenorol, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithdy.

 

Eventbrite: Arweiniad ar gerfio llwyau i ddechreuwyr gyda Lee John Phillips 

 

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

<< Yn ôl tudalen