Digwyddiadau
Taith Arddangosfa gyda Stephen WestCanfod Lefel y Môr
11 Mawrth - 11 Mawrth 2023
Taith arddangosfa | 2yp dydd Sadwrn 25 Mawrth 2023
Taith Arddangosfa gyda Stephen West
Hoffai Oriel Mission eich gwahodd i agoriad arddangosfa Canfod Lefel y Môr, gyda taith arddangosfa gan yr artist Stephen West.
Artist sydd wedi byw a gweithio yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru ers bron i 40 mlynedd yw Stephen West. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn rheolaidd yn orielau mawr Cymru, mewn arddangosfeydd amrywiol yn Lle Celf yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi ymddangos ar restr fer nifer o wobrau a chystadlaethau yn y DU. Mae wedi gweithio drwy gyfrwng peintio, cerflunio, print a darlunio. Ar gyfer ei osodwaith newydd yn Oriel Mission, Abertawe, bydd ei ddarluniau, ar raddfa fawr, yn cael eu gosod i greu dilyniant o ddelweddau dramatig, pob un a naratif ond heb adrodd stori.
Delwedd: Manylion o Swansea/Cork Ferry gan Stephen West. Golosg ar bapur, 183x122 cms, 2023.
Credyd Delwedd: Dewi Tannatt Lloyd