Digwyddiadau
Summer Holiday Art ActivitiesOriel Mission
07 Awst - 22 Awst 2013
Mae yna raglen wahanol o weithgareddau celf yn cymryd lle trwy gydol yr Haf yn Oriel Mission, ysbrydolir ein
gweithdai a teithiau tywys ar gyfer plant a teuluoedd gan arddangosfa New Paintings Richard James. Gall plant
arbrofi gyda chreu marciau, hunanbortreadau a cherflunwaith gyda’r artist Jessica Hoad, neu greu robot paentio
eu hun, wedi eu creu o hen deganau toredig gyda’r artist Sean Olsen.
Cysylltwch â Emma Rylance Swyddog Dysgu a Chyfrannu, am fwy o wybodaeth ac i fwcio lle. Bydd y gweithdai yn
cymryd lle rhwng 11yb – 2yp ar y llawr cyntaf ac yn costio £5 – talu o flaen llaw yn hanfodol a darparir y defnyddiau,
mae Teithiau Tywys am ddim. Dewch â brechdanau a gadewch ni wybod am unrhyw alergedd neu gyflwr meddygol.
07/08/13 Yr Hunan a’r Synhwyrau, hunanbortreadau.
08/08/13 Robotiaid Mission, creu a paentio.
10/08/13 Teithiau Tywys i deuluoedd, galw i fewn.
14/08/13 Gwneud eich marc, creu marciau.
15/08/13 Robotiaid Mission, creu a paentio.
17/08/13 Teithiau Tywys i deuluoedd, galw i fewn.
21/08/13 Busted, creu cerflunwaith.
22/08/13 Robotiaid Mission, creu a paentio.