Digwyddiadau

  • Header image

Seminar Paentio Gordon Dalton

03 Awst - 03 Awst 2013

Seminar Paentio | 2yp dydd Sadwrn 3 Awst 2013

Fe’ch gwahoddir i seminar paentio yn Oriel Mission ar safle paentio yn ymarfer celfyddydol cyfoes trwy drafodaeth agored rhwng cynulleidfa o ymarferwyr a’r cyhoedd.

Yn cynnwys yr artist arddangosedig Richard James a chadeirir gan Gordon Dalton. Mae cyfrannu i’r drafodaeth yn opsiynol.

Pam mae paentio yn parhau i’n swyno? Mae paentio da (gan fod digon sydd yn wael) yn ein difa. I fwynhau paentio, neu i fod yn baentiwr, mae angen ymrwymiad, ymrwymiad hir-dymor sydd yn debyg iawn i berthynas. Mae yna angerdd, tristwch; mae yna lan, lawr, mae yna wahanu ond hefyd, gyda llawer o waith, mae yna foddhad, cariad dwfn, chwilgarwch a sgwrs un ar un barhaol sydd yn ein gwobrwyo’n fawr.

Heb fod yn (rhy) drafferthus, dadleuaf fod paentio â pherthynas hir dymor. Taith hir, droellog yw paentio, gyda chamau dysgu caled a digon o beryglon ar y ffordd. Mae paentio wedi bod yn gynnwrf erioed, os ychydig yn rhwystredig. Pan yn llwyddiannus, ymdopa i osgoi ffasiynau a thueddiadau, ond erys yn hanfodol. Profiad un ar un barhaol yw paentio. Efallai mae ond gwthio mwd lliwgar o amgylch gyda brws blewog ydyw, ond i fi nid oes gan unrhyw ffurf celf arall y berthynas yma.

Gordon Dalton, Mehefin 2013

Paentiwr o Gaerdydd yw Gordon Dalton, Swyddog Prosiect Locws Rhyngwladol a curadur i Mermaid and monster www.mermaidandmonster.wordpress.com

<< Yn ôl tudalen