Digwyddiadau
Pasbort Marina
22 Gorffennaf - 26 Awst 2016
Ymunwch â ni am haf llawn hwyl greadigol i’r teulu gyda Phasbort Marina! Mae Amgueddfa Abertawe, Oriel Mission, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Locws a Chanolfan Dylan Thomas wedi trefnu detholiad cyffrous o weithgareddau i deuluoedd gymryd rhan ynddynt dros wyliau’r haf. Gallwch gymryd rhan yn unrhyw rai o’n gweithgareddau dros yr haf a byddwch yn gallu casglu sticeri neu stampiau i roi yn eich Pasbort Marina!
O ‘Haf o Wyddoniaeth’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, i ddarganfod gweithiau celf anhygoel gyda Locws, mae llawer i‘w wneud. Beth am roi cynnig ar ‘Gampwaith Ffelt’ yn Oriel Mission, neu archwilio byd rhyfeddol y CMM gan Roald Dahl drwy greu ‘jar breuddwydion’ yng Nghanolfan Dylan Thomas – a chewch ganfod yr holl lygod cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe!
Byddwn yn lansio’r Pasbort Marina ddydd Gwener 22 Gorffennaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, ynghyd â gweithdy ‘Holiday Memory’ i’r teulu. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 1pm a 4pm i gasglu eich pasbort am ddim, a chasglu eich sticer cyntaf!
Bydd Pasbortau Marina am ddim ar gael yn y lleoedd sy’n cymryd rhan drwy wyliau’r haf. Gellir casglu sticer neu stamp ym mhob lleoliad, a gall sticeri Locws gael eu casglu o’r holl leoliadau sy’n cymryd rhan.
Ewch i’r gwefannau canlynol i weld y digwyddiadau a’r llwybrau:
Canolfan Dylan Thomas: www.dylanthomas.com/cy/gweithgareddaugwyliau/
Locws: www.locwsinternational.com/?portfolio=whats-on&langswitch_lang=cy
Oriel Mission: www.cymraeg.missiongallery.co.uk/digwyddiadau/dyfodol/
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: https://amgueddfa.cymru/abertawe/digwyddiadau/
Amgueddfa Abertawe: www.swanseamuseum.co.uk/cy/