Digwyddiadau
Mewn Sgwrs | John Paul Evans gyda Siân Addicott
30 Ebrill - 30 Ebrill 2022
2yp | Dydd Sadwrn 30 Ebrill 2022
Yn agored i bawb ond gydag argaeledd cyfyngedig – archebwch le’n gynnar rhag cael eich siomi.
Artist ffotograffig ac academydd a aned yng Nghymru yw John Paul Evans sydd bellach yn byw yn Nyfnaint yn Lloegr. Mae ei waith yn ymdrin â’r dadleuon yn ymwneud â chynrychiolaeth rhywedd mewn ffotograffiaeth.
Yn ei arddangosfa What is lost... what has been mae'n archwilio'r broses hunan-ethnograffig o weu’ch hanes personol yn ddeialog gweledol yn ffordd fuddiol o edrych ar duedd ffotograffiaeth tuag at goffáu a hefyd ddadansoddi syniadau am berthyn/arwahanrwydd, galar a phrudd-der mewn cysylltiad â’r albwm ffotograffig teuluol.
Eventbrite: In Conversation | John Paul Evans with Siân Addicott
Image / Delwedd: Absent friend, John Paul Evans