Digwyddiadau

  • Header image

Green & GoldenSymposiwm yn Archwilio i Effaith Lleoliad ar Addysg Gelf a’r Ysgol Gelf

27 Mehefin - 27 Mehefin 2015

Symposiwm yn Archwilio i Effaith Lleoliad ar Addysg Gelf a’r Ysgol Gelf

Dydd Sadwrn 27ain Mehefin 2015 11am- 6pm

Cyfnewidfa Ddylunio ALEX, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Alexandra Road, Abertawe, SA1 5DX

 

Trefnir y digwyddiad hwn gan Q-Art mewn Cydweithrediad â’r Cwrs Celf a Dylunio Sylfaen yng Ngholeg Celf Abertawe yn PCYDDS mewn partneriaeth ag Oriel Mission. Wedi’i ysbrydoli gan lyfr Beck a Conford, The Art School and The Culture Shed, mae’n gwahodd pobl o bob rhan o’r sector (ysgol, AB, AU, cyngor celfyddydau, sefydliadau’r celfyddydau) i drafod y thema ‘lleoliad ac addysg gelf’.

Gall y cwestiynau allweddol gynnwys:

Pa berthynas sydd gan ysgol gelf gyda’i chymuned leol, ysgolion, a’r sîn celfyddydau? Ydy lleoliad yn effeithio ar bwy sydd neu sydd ddim yn mynychu ysgol gelf neu’n siapio beth mae ei graddedigion yn mynd ymlaen i’w wneud? Sut mae lleoliad ysgol gelf yn siapio’i chwricwlwm? Pa rôl sydd gan ddysgu ar-lein ac o bell ar ehangu cyfranogiad mewn addysg gelf a pha mor bwysig ydy’r lle dysgu/stiwdio ffisegol? Beth yw rôl partneriaethau rhyngwladol? Beth yw rôl ysgol gelf yn y gymdeithas a sut mae hyn wedi datblygu?

Siaradwyr a Gadarnhawyd:

David Alston (Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru), Dr lan Walsh (Deon, Coleg Celf Abertawe) Bella Kerr (arweinydd cwrs Sylfaen CCA), Catrin Webster (arweinydd cwrs BA Celf Gain CCA), Amanda Roderick (Cyfarwyddwr, Oriel Mission), David Hooper a Mari Bradbury (Cydbwyllgor Addysg Cymru), Sophie Hadaway (Raising the Bar), Alumni Sylfaen Abertawe, Matthew Cornford (Pennaeth BA Ymarfer Celf Gain Beirniadol Brighton ac awdur Art School Culture Shed), Kieren Reed (Cydlynydd Israddedig Slade School of Art), Christian Lloyd (Arweinydd Cwricwlwm BA Cyfathrebu Gweledol Open College of the Arts), Michelle Letowska (Darlithydd BA Celf Gain Lews Castle College/University of the Highlands & Islands), Dereck Harris (Pennaeth Paentio yn Wimbledon College of Art), a Dr. Stephen Felmingham (Arweinydd y Rhaglen: BA Paentio, Darlunio a Gwneud Printiau, Plymouth College of Art), Prisiau a Manylion Archebu: Pris tocyn yw £22.50 ac mae’n cynnwys mynediad i’r digwyddiad yn ogystal â chinio/lluniaeth, llyfr Q-Art o’ch dewis, a gostyngiad o 10% ar gyhoeddiad nesaf Q-Art. Am ragor o fanylion ac i gadw lle, ewch i: https://goo.gl/9WBhZF

 

Bydd y digwyddiad yn cyd-daro â dwy arddangosfa yn Abertawe: Time Let Me Play yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Gathered Again yn Oriel Mission sy’n cynnwys gwaith staff ac alumni Sylfaen yn ei dro. Byddwn yn trefnu ymweliad â’r lleoliadau hyn ar ddiwedd y dydd – lle byddwn hefyd yn cynnal derbyniad i gloi’r digwyddiad.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch ni ar Facebook a Twitter: @gatheredalumni @qart_org

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â bella.kerr@uwtsd.ac.uk neu sarah.rowles@q-art.org.uk

<< Yn ôl tudalen