Digwyddiadau

  • Header image
  • Header image
  • Header image

Diwrnod Arddangosiadau Gwneud PrintiauGweithdy Argraffu Abertawe

21 Hydref - 21 Hydref 2023

2 - 3.30yp, dydd Sadwrn 21 Hydref 2023

I fwcio'ch lle AM DDIM, cliciwch yma

Lleoliad: Oriel Mission

 

Arddangosiadau Gwneud Printiau gydag Aelodau Gweithdy Argraffu Abertawe, Rosie Scribblah, Anne Gullick a Louise Hughes.

Ymunwch â ni yn Oriel Mission i fwynhau gweld tri gwneuthurwr printiau yn arddangos eu gwaith. Bydd y sesiwn arddangos rad ac am ddim hon yn rhoi ichi gipolwg ar sut maent yn gweithio a chewch gyfle i sgwrsio â’r artistiaid wrth eu gwaith.

 

2yp: Arddangosiad Torri Leino gyda Rosie Scribblah

Mae fy ymarfer gwneud printiau yn seiliedig ar ddarlunio o fywyd. Rwy’n cario llyfr braslunio lle bynnag yr af i, ac rwy’n ail-ddehongli’r darluniau hyn yn doriadau leino a thoriadau pren, monoteipiau, a phrintiau sgrîn. Nid wyf fi’n glynu’n glos wrth y cyfrwng hwn yn unig; rwy’n aml yn cyfuno gwahanol dechnegau gwneud printiau ar un darn o waith.

Gan ddefnyddio ei blociau presennol, bydd Rosie yn argraffu ei dyluniadau Mari Lwyd ar bapurau monoteip. Bydd hi hefyd yn dod â ‘Mari mewn pecyn fflat’ i’r oriel!

 

2.30yp: Arddangosiad Colagraff gyda Anne Gullick

Mae byd natur yn rhoi digonedd o ysbrydoliaeth imi. Rwy’n ceisio cipio priodweddau, lliwiau, patrymau a ffurfiau gweadol a’u cynnwys yn fy ngwaith gan ddefnyddio prosesau a thechnegau cyfryngau cymysg.

Bydd Anne yn rhannu ei phroses gwneud blociau, ac yn dangos sut i wneud nodau i greu delweddaeth gan ddefnyddio amrywiol offer. Bydd yn defnyddio inc yn ofalus, gan ganiatáu ar gyfer amrywiaeth mewn tôn a chryfder llinellau, a bydd yn argraffu ar amrywiol bapurau a fydd wedi’u paratoi.

 

3yp: Arddangosiad Argraffu Plât Gelli gyda Louise Hughes

Fel addysgwr wedi ymddeol, teithiwr brwd a ffotograffydd bywyd gwyllt, rwy’n datblygu trywydd artistig newydd fel gwneuthurwr printiau.

Arddangosiad Argraffu Plât Gelli:Mae hwn yn ddull cymharol newydd o wneud printiau heb fod angen gwasg. Bydd Louise yn dangos inni sut i ddefnyddio inc gan ddefnyddio rholer wasgu ar blât gelatin meddal. Bydd yn defnyddio gwrthrychau a stensiliau i fasgio’r plât a throsglwyddo delweddau gweadog i’r papur.

Rhestr logos MiniPrint Cymru


Delweddau:

Delwedd 1: Mari Lwyd gan Rosie Scribblah

Delwedd 2: Jardin Exotique gan Anne Gullick

Delwedd 3: Bird's Nest gan Louise Hughes


<< Yn ôl tudalen