Digwyddiadau
Digwyddiad #2: AGORDigwyddiad anffurfiol o Fenywod-artistiaid sydd â diddordeb
27 Hydref - 27 Hydref 2023
5.30 - 7.30yh, nos Wener 27 Hydref 2023
Lleoliad: Oriel Mission
I fwcio lle, cliciwch yma
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad Agor mis Gorffennaf a gynhaliwyd yn Oriel Mission ac yn Pontio, Bangor, mae Agor yn falch iawn o gynnal digwyddiad anffurfiol o Fenywod-artistiaid sydd â diddordeb.
Bydd y digwyddiad yn dechrau drwy fod pawb yn mynd i weld arddangosfa MiniPrint Wales gyda Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr prosiect MiniPrint Wales Gweithdy Argraffu Abertawe. Yn dilyn hyn, ceir cyfle i rannu a thrafod eich ymarfer gydag artistiaid eraill ochr yn ochr â diweddariadau am brosiectau AGOR i’r dyfodol (gyda newyddion gan Atelierhof Werenzhain).
Aelodau sefydlol AGOR Chris Bird-Jones a Beate Gegenwart fydd yn eich croesawu.
Rhaglen breswyliadau arbrofol a sefydlwyd i gryfhau’r cysylltiadau rhwng menyw-artistiaid o Gymru a’r Almaen yw Agor. Mae’n ymchwiliol ei natur, a’i nod yw adeiladu ar ddeialog a rhannu agored, gan ddatblygu perthnasoedd gweithio.
Am fwy o wybodaeth: www.agor-opening.com
Croeso i bawb
Digwyddiad am ddim gyda peth lluniaeth.
Croesewir rhoddion.
Please book your place here