Digwyddiadau
Cerddi a pheintiadau | poems and paintingsLlif / بہاؤ / Flow
17 Chwefror - 17 Chwefror 2023
6.30yh, Nos Wener 17 Chwefror 2023
Lleoliad: Oriel Mission
Ymunwch â’r bardd Mererid Hopwood a’r artist Ayessha Quraishi wrth iddyn nhw fynd â ni ar eu taith o ddŵr. Bydd Mererid yn rhannu ei chasgliad newydd o gerddi a bydd Ayesha yn cyflwyno ei chorff newydd o waith, gan ddangos ei dull unigryw a’i thechneg peintio.
Mae Mererid ac Ayessha wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu digidol ar y cyd dros y naw mis diwethaf. Nid oedd y ddwy wedi gweithio gyda’i gilydd o’r blaen, ac felly mae Mererid ac Ayesha wedi bod yn trin a thrafod eu hatgofion a’u profiadau o ddŵr. Mae hanesion personol a diwylliannol yn cyfuno â digwyddiadau a phrofiadau cyfoes yn sail i’w gwaith newydd sbon. Mae Mererid ac Ayessha yn falch o rannu eu harchwiliadau a’u casgliadau newydd dwys a hardd gyda chi yn y digwyddiad unigryw hwn.
Mae cydweithrediad Mererid ac Ayessha yn rhan o brosiect ehangach GoDigital a elwir yn Llif بہاؤ Flow.
I fwcio: Cerddi a pheintiadau | poems and paintings
-
Mae Llif بہاؤ Flow yn cynnwys pum cynllun ymchwil penodol. Er eu bod fel arfer yn gweithio ar wahân, daeth pum artist o Bacistan at ei gilydd yn benodol i archwilio cysylltiadau diwylliannol gyda phum ymarferydd creadigol yng Nghymru. Mae pob menter wedi cael ei chyflawni’n ddigidol ac wedi datblygu’n wahanol o ran deinameg.
Dyma artistiaid Llif بہاؤ Flow:
Ayessha Quraishi a Mererid Hopwood
Maheen Zia ac Ingrid Murphy
Rameesha Azeem ac Eddie Ladd
Shanzay Subzwari a Lauren Heckler
Zohra Amarta Shah a Llio James
Mae Oriel Mission wrth ei bodd yn hwyluso arddangosfa Llif بہاؤ Flow ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno arddangosfa o ganlyniadau ymchwil creadigol yr artistiaid sy’n cymryd rhan. Mae arddangosfa Llif بہاؤ Flow yn cynnwys peintio, tecstilau, gweithiau sain, barddoniaeth, ffilm a pherfformiadau. Mae ar waith yn Oriel Mission tan 25 Chwefror 2023.
Mae’r prosiect GoDigital hwn yn cael ei ariannu gan British Council ac mae’n rhan o raglen Pakistan/UK: New Perspectives y British Council sy’n nodi 75 mlynedd ers sefydlu Pacistan.
-
Llun: Ayessha Quraishi, Memory of Water 1 (Atgof o Ddŵr 1), llun gan Jamal Ashiqain