Digwyddiadau

  • Header image

Agor.OpeningGwahoddiad

14 Gorffennaf - 14 Gorffennaf 2023

Digwyddiad gan Oriel Mission ac Agor.Opening

Lleoliad: Oriel Mission

Hyd:11.00am — 3.00pm

Pwy: Artistiaid benywaidd sy'n byw yng Nghymru

 

Eventbrite: Agor.Opening

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission i glywed mwy am y prosiect gan yr artistiaid AGOR a sefydlwyd a sut i gymryd rhan.

Mae Agor yn rhaglen breswyl arbrofol a gychwynnwyd i gryfhau'r cysylltiadau rhwng artistiaid benywaidd o Gymru a'r Almaen. Yn archwiliol ei natur, ei nod yw adeiladu ar rannu agored a deialog, gan ddatblygu perthnasoedd gwaith.

Bydd cinio dewisol ar gael ar y diwrnod am gost o £10 (bowlen Bwdha Judy Roots) Archebwch ymlaen llaw, taliad gyda arian parod ar y dydd.

Sgwrs Artist: Vivian Ross-Smith, gwestai AGOR, sydd ar hyn o bryd yn Gymrawd Stiwdio Sefydliad Freelands preswyl yn PCYDDS Abertawe.

Fel rhan o'r diwrnod, bydd Vivian yn siarad am ei gwaith a'i phrofiad o breswyliad yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS.


Nodyn:

Bydd cinio dewisol ar gael ar y diwrnod am gost o £10 (bowlen Bwdha Judy Roots) I archebu o flaen llaw, ebostiwch agor.opening@gmail.com, bydd taliad gyda arian parod yn digwydd ar y dydd.

Oherwydd digwyddiadau sydd yn cymryd lle yn Abertawe, bydd rhai ffyrdd ar gau. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Os yn gyrru, mae'r maes parcio ger yr orsaf dren yn opsiwn gan ei fod ond 10 munud i ffwrdd o'r oriel.

 

@agor.opening @missiongalleryswansea @pontio #WAI #CyngorCelfyddydauCymru #artistiaidbenywaidd #deialog #preswyliad #YrAlmaenCymru

<< Yn ôl tudalen