Curadur Arddangosfa Criw Celf 2021
Rydym yn chwilio am guradur arloesol a phrofiadol i’n helpu i ddangos y gwaith celf a gynhyrchir ym mhrosiect Criw Celf eleni.
Prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Criw Celf sy’n dwyn at ei gilydd y myfyrwyr mwyaf galluog a dawnus yn y celfyddydau gweledol rhwng 9 a 18 oed. Rhan o fenter genedlaethol yw hon i feithrin doniau artistig ifainc yng Nghymru. Mae Criw Celf yn ceisio datblygu gwaith creadigol disgyblion a’u gwybodaeth am y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr.
Mae’r dosbarthiadau meistr hyn yn cael eu harwain gan artistiaid a dylunwyr proffesiynol sy’n cynnig ymchwiliad ehangach i ddulliau’r celfyddydau gweledol. Mae’r dosbarthiadau meistr wedi cynhyrchu amrywiaeth o ddeilliannau creadigol – o gerameg i sgrîn-argraffu, i waith gwydr ac arlunio o’r byw. Mae’r arddangosfa’n dwyn at ei gilydd y darnau cyffrous yma’n gyfanwaith cydlynus sy’n amlygu cyflawniadau eithriadol y 90 o artistiaid ifainc yma.
Bydd disgwyl i’r Curadur gyflwyno’r gweithiau celf hyn mewn ffordd sy’n ddethol ac eto’n heriol a chyffrous wrth reoli cyllideb arddangos ac os yn bosibl ddarparu ei dechnegwyr ei hun (y mae ffi ar wahân ar eu cyfer). Disgwylir hefyd i’r Curadur fentora a gweithio ochr yn ochr â churadur ifanc a fydd yn cynorthwyo ac yn cysgodi wrth greu’r arddangosfa hon.
Mae gan Oriel Mission enw da iawn am y sioeau arddangos hyn ac yn flynyddol wedi neilltuo lle yn ei hamserlen arddangosfeydd i ddod â gwaith yr artistiaid ifainc yma i’r blaen. Ac felly disgwyliwn i’n sioeau Criw Celf fod yr un mor broffesiynol a rhagorol â gweddill ein rhaglen arddangosfeydd.
Ffi’r Curadur: £600
Mae’r arddangosfa’n rhedeg o ddydd Sadwrn 11 tan 25 Medi 2021 gyda’r wythnos cyn hynny ar gael i’w gosod.
Os hoffech chi ymgeisio am y safle hwn, cwblhewch ein ffurflen cais.
Curadur Arddangosfa Criw Celf 2021 Ffurflen Cais.
Y dyddiad cau am geisiadau yw dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021.
Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus ddydd Gwener 6 Awst 2021.
Os oes gynnoch chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â megan@missiongallery.co.uk