Yr Oriel

  • Header image
  • Header image
  • Header image
  • Header image

Nature IlluminatedKatie Allen

22 Gorffennaf - 02 Medi 2012

Getting and spending we lay waste our powers

Too little we see in nature that is ours

 

Wordsworth

 

Mae Nature Illuminated yn cynnig cyfle amserol i ymwelwyr â’r Mission Gallery weld paentiadau newydd gan Katie Allen. Mae ei gwaith, mewn cymaint o ffyrdd cymhleth, yn ymgorffori heriau ymarferol paentio yn ogystal â’r athroniaeth mwyaf digyfnewid ac anhydrin, er nad yw hyn mewn unrhyw fodd yn gwneud ei gwaith yn ‘anodd’ i’w werthfawrogi. Mae cryn hyder ynddynt sy’n gwneud y paentiadau hyn yn aruthrol o hudol a deniadol. Maent yn gwbl hardd i edrych arnynt, a bydd archwiliad manwl yn caniatáu mwy fyth o bleser ble y bydd y gweledol yn datblygu law yn llaw ag ymwybyddiaeth cynyddol o’r cwestiynau y mae’r gwaith yn eu codi: syniadau y bydd, yn llythrennol ac yn drosiadol, yn taflu goleuni arnynt.

 

O safbwynt hanes celf, mae gwaith Allen, yn fy marn i, yn enghraifft hynod o drawiadol o realaeth swynol addurnol, math o baentio ble y caiff ‘gwrthrychau eu dehongli â naturiolaeth manwl ond sydd, oherwydd elfennau paradocsaidd neu gyfosodiadau rhyfedd, yn cyfle ymdeimlad o afrealrwydd, gan drwytho’r cyffredin ag ymdeimlad o ddirgelwch.1 Yn yr un modd, mae ei phaentiadau yn parhau â’r syniad hŷn o’r dyrchafedig rhamantus: y syniad o geisio harddwch yn y tirwedd i’r fath raddau fel ei fod bron, ond nid yn hollol, yn croesi’r trothwy i’r cyfriniol. Yn ogystal, ceir cymhlethdodau diddorol eraill: arddulliadau penodol o fotiffau a thriniaeth manwl gywir o baent, rhyw bop seicedelig arbennig, y diffyg fframio ‘modern’, natur addurniadol diedifar yr holl waith, y mae pob un ohonynt yn caniatáu dehongliadau ôl-fodernaidd. Yr hyn sy’n bwysig yma yw’r glynu rhannol a gorgyffyrddol at yr uchod, sy’n golygu bod y gwaith yn meddu ar gywreinrwydd neilltuol. Mae Allen yn parhau i fod yn esiampl arbennig o artist sy’n gwneud pethau yn y drefn gywir. Mae wedi mynd ati’n ofalus i ganfod datrysiad i’r hafaliad amser-gofod y mae’r stiwdio’n ei gyflwyno, wedi datblygu arddull a hunaniaeth unigryw o fewn ei gwaith ac yna, yn allweddol, wedi dewis testun y gall pawb ei ddeall, ond sydd ar yr un pryd yn agored i liaws o ddirnadaethau hanesyddol ac athronyddol.

 

O ystyried y cyntaf o’r prismau hyn (ansoddair cwbl addas ar gyfer yr arddangosfa hon), y gellir dehongli gwaith Allen trwyddo, mae’n ddigon posibl nad yw Allen yn realydd swynol wedi’r cyfan, o ystyried y pellter sydd rhwng y paentiadau hyn a gwreiddiau’r term.2 Mae ceisio ei chymharu â Georg Schrimpf (1889-1938) neu â Wilhelm Heise (1892-1955) er enghraifft, y ddau bellach wedi eu colli yn niwloedd amser, yn gwbl ofer, digon yw dweud bod diffyg yr elfen amlwg hynod yng ngwaith Allen yn golygu ei bod yn adlewyrchu bwriad gwreiddiol Franz Roh i’r term, a’i fod yn disgrifio cynrychiolaeth ‘o’r cyffredin yn y fath fodd fel ei fod yn amlygu ei rinweddau swynol’, ac y gallai gynnwys ‘defnyddio manylion miniatur hyd yn oed mewn paentiadau eang, fel tirluniau mawrion.’3 O’r grŵp hwn, dim ond Henri Rousseau (1844-1910) sydd o bwys, a hynny oherwydd ei driniaeth o goed, planhigion a dail o’r tu blaen, ac efallai mai trwyddo ef y gallwn briodoli gwreiddyn swrrealaidd i waith Allen. Wedi’r rhyfel, wnaeth realaeth swynol fyth adennill ei bwysigrwydd, unai fel arddull – neu hyd yn oed syniad – mewn paentio, er bod adleisiau ohono wedi parhau mewn amrywiol elfennau o’r diwylliant poblogaidd. Mae’r cynnydd mewn realaeth swynol llawer mwy damcaniaethol mewn llenyddiaeth, a’r penbleth olygodd hyn i’r grefft o baentio, ynghyd â’r confensiynau a orfodwyd gan reolwriaethau gwleidyddol gwybodaeth ym maes celfyddyd gyfoes ers y 1960au, wedi arwain, yn baradocsaidd ddigon, at ei weld yn cael ei anwybyddu ar y cyfan gan y set ffasiynol (mae’r artist Peter Doig yn eithriad cyfoes), ac yn hytrach caiff ei hawlio heddiw ar gyfer, ac ar ran, artistiaid y cyrion.4 Ymhell o fod yn elfen negyddol, mae’r diffyg dilyniant yma’n golygu bod gan Allen berthynas sydd ymhell o fod yn syml â hanes celf confensiynol. Mae hyn yn ychwanegu at, yn hytrach na’n bychanu ei gwaith. 

 

Ail brism y gellir ei ddefnyddio i ystyried y paentiadau hyn yw un o addurniadau a thlysau. Mae’r cydbwysedd cain rhwng yr haniaethol a’r ffigurol y bydd ei arddulliadau penodol personol yn galw amdano’n bwysig, cyn belled â bod y cydbwysedd hwnnw’n ffrwyno’r ddau ar yr un pryd.5 Tra bo’r paentiadau newydd yn Nature Illuminated efallai’n cynnwys defnydd mwy trawiadol o liw, i mi maent yn parhau i fod yn ffigurol ac, i raddau helaeth, mae diweddgan paentio Modernaidd yn amherthnasol i Allen. Mae’r addurniadol yn allweddol, a byddai’n ddiddorol ‘darllen’ ei gwaith trwy linach hanes addurniadol yn hytrach na hanes celfyddyd gain. Tydw i ddim mewn sefyllfa dda iawn i wneud hyn, er y byddai elfennau Art Deco Mucha, Rennie Mackintosh, Tiffany, a Lalique yn sicr yn ffactorau. Mae’r cwestiwn yn tarddu’n benodol o’r ffaith ei bod yn glynu at arddull cyflawn ar gyfer ei gwaith, a gellir ei olrhain yn ôl at ragflaenwyr Symbolaidd Art Deco yn ogystal ag ymhellach yn ôl i’r Cyn-Raffaëliaid trwy Japonisme Ewropeaidd.

 

Mae diffyg presenoldeb a gweithgarwch dynol uniongyrchol yn ei holl gymhlethdod anniben yn destun penbleth yng ngwaith Allen. Yn wir, mae’r golygfeydd perffaith gywrain yn cynnwys olion rhannol y realydd swynol a’r symbolydd, ond mae diffyg yr elfen ddynol, i ryw raddau, yn negyddu’r dosbarthiadau hyn. Efallai bod y pwyslais ar yr addurnol yn golygu bod y paentiadau’n apelio mwy i’r synhwyrau nag i’r ymennydd. Efallai y byddai rhai’n dehongli hyn fel gwendid. Tra eu bod yn cyfleu’r ymdeimlad o setiau neu gefnlenni gyda rhywbeth sydd ar goll neu yn rhywle arall, bydd hyn yn gwneud dim ond llwyddo i bwysleisio eu rhinweddau breuddwydiol a thynnu eich sylw i’r hyn ydyn nhw mewn gwirionedd: tirluniau sy’n ensynio presenoldeb dynoliaeth. Yn Parkmill a Somewhere in Between ceir llwybrau i mewn i’r darlun y gallem gerdded ar eu hyd. Cawn ein hatgoffa bod marwol rwymau bywyd wedi eu gosod yn anghymodlon o fewn tirwedd, waeth pa mor ffuglennol fo hwnnw. Yn ddiddorol iawn yn Somewhere in Between ceir ochr olau a thywyll i’r ffordd.

 

Ceir rhesymeg yng ngwaith Allen gan ei fod yn ‘ymddangos fel nad yw’n cynnwys unrhyw foeswers, ac o’r herwydd yn arddangos petruster modern iawn y mae gan bawb ohonom ein rhan ynddo, rhwng tirwedd a luniwyd yn y meddwl, ac un a luniwyd mewn realiti ymarferol.’6 Er bod hyn yn awgrymu ei bod â barn iwtopaidd ynghylch dyfodol ein amgylchedd naturiol cyffredin, mae’r gweithiau newydd yn Nature Illuminated yn ailgadarnhau inni fynychder tragwyddol celfyddyd a’r amgylchedd naturiol a’n gallu i gyfarwyddo’r olaf. Maent yn cadarnhau cred Schopenhauer mae’r hyn sy’n gwahaniaethu profiadau esthetig oddi wrth rai eraill yw bod myfyrio ar wrthrych gwerthfawrogiad esthetig yn caniatáu ysbaid fer i’r gwrthrych rhag gynnen chwant, gan ganiatáu mynediad i fro mwynhad meddyliol pur, y byd fel cynrychioliad neu ddelwedd feddyliol yn unig. I Schopenhauer, po fwyaf y mae meddwl person yn ystyried y byd fel cynrychioliad, y lleiaf y bydd yn teimlo dioddefaint y byd fel ewyllys. Bydd sefyll o flaen un o baentiadau Katie Allen yn caniatáu hyn, er ein bod yn gwybod, yn gwbl groes, yn nwfn ein calon, fel y dywedodd Turgenev, ‘nad yw natur yn malio dim am ein rhesymeg dynol; mae ganddi ei rhesymeg ei hun, na fyddwn yn ei chydnabod tan inni gael ein gwasgu dan ei holwyn.’7

 

 

Nodiadau

 

1. Chilvers, Ian (gol.), The Concise Oxford Dictionary of Art and Artists, Gwasg Prifysgol Rhydychen. 1990.

 

2. Magic(al) Realism. Term a fathwyd gan y beirniad o Almaenwr, Franz Roh (1890-1965) ym 1925 i ddisgrifio agwedd y Neue Sachlichkeit (Gwrthrychedd Newydd) sy’n nodweddiadol yn cynnwys manylion manwl-gywrain. Defnyddiwyd y term yn gyntaf ar gyfer disgrifio agweddau o’r arddangosfa Neue Sachlichkeit (New Objectivity) a guradwyd gan Gustav Friedrich Hartlub yn y Kunstalle Mannheim ym 1923.

 

3. Roh, Franz, Nach-Expressionismus. Magischer Realismus. Probleme der neuesten europäischen Malerei (After Expressionism: Magical Realism: Problems of the Newest European Painting), Klinkhardt & Biermann, Leipzig. 1925.

 

4. Gellid ystyried Rob Gonsalves neu Patricia Van Lubeck yn enghreifftiau da o artistiaid o’r fath.

 

5. Mynnodd Matthew Guy Nichols, wrth ysgrifennu’n ddiweddar am baentiadau Beatriz Milhazes, y mae’n werth edrych ar ei gweithiau haniaethol ochr-yn-ochr â phaentiadau Allen, ‘pan wnaeth y beirniad Americanaidd Clement Greenberg wfftio addurno fel ‘y rhith sy’n plagio paentio modernaidd’, fe wnaeth gydnabod yn ddigrybwyll ei debygrwydd ffurfiol i’r cynfasau an-wrthrychol yr oedd yn pledio eu hachos. Yn wir, roedd iaith llawn cyfeiriadau seicig Greenberg yn awgrymu mai addurno oedd yr id i ego moderniaeth, wastad yn llechu yng nghysgod haniaethiad yn bygwth mynnu cydnabyddiaeth.’ Gweler Nichols, Matthew Guy, “Beatriz Milhazes at James Cohan Gallery, New York,” Art in America, Mawrth 2005.

 

6. Pleass, Anders, ‘Katie Allen’ yn We Have The Mirrors, We Have The Plans / Gennym Ni Mae’r Drychau, Gennym Ni Mae’r Cynlluniau, Oriel Mostyn, Llandudno. 2010.

 

7. Ivan Turgenev (1818-1833) wedi ei ddyfynnu yn A. C. Grayling, The Mystery of Things, Weidenfeld & Nicholson, Llundain. 2004.


<< Yn ôl tudalen