Dydd Sul 22 Mehefin 2025
11am-2pm | Gweithdy i oedolion | £50
Torchau o Flodau Sych gyda Petallica Flower Farm
Darperir lluniaeth
Amdanom Ni
Mae Petallica Flower Farm yn sefydliad nid-er-elw sy’n tyfu ac yn gwerthu blodau tymhorol a chynaliadwy ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae Petallica yn rhoi’r gymuned a chynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd gwaith y sefydliad. Mae hyn yn golygu tyfu blodau tymhorol yn unig, peidio â defnyddio cemegion na phlaladdwyr, pweru’r fferm ag ynni solar a gwerthu’r blodau’n lleol. Mae hefyd yn golygu eu bod yn cynnal nifer o brosiectau sy’n defnyddio garddwriaeth fel ffordd o wella llesiant a chysylltu pobl yn y gymuned leol.
Crynodeb
Yn ystod y gweithdy hwn byddwch chi’n cael eich tywys drwy’r broses o wneud eich torch o flodau sych eich hun. Byddwch chi’n dechrau drwy ddewis cymysgedd o flodau sydd wedi eu tyfu a’u sychu mewn modd cynaliadwy ar ein fferm ym Mhenrhyn Gŵyr. Yna, byddwch chi’n cael cyfle i ddilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam er mwyn creu eich torch brydferth eich hunain gyda’r offer a’r deunyddiau a ddarperir. Ar ddiwedd y gweithdy, byddwch chi’n cael mynd â’ch torch gyda chi er mwyn ychwanegu lliw at eich cartref.
Eventbrite:Torchau o Flodau Sych gyda Petallica Flower Farm
Nid oes angen profiad blaenorol, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu cynnwys fel rhan o’r gweithdy.
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.