Parti Celf

2 awr | dim mwy na 12 cyfranogwr | 7+ oed |  £120

Rhaid talu £20 ychwanegol i gael bagiau nwyddau sy’n cynnwys deunyddiau celf a chrefft.


Art Party Set-Up

Parti Celf

Yma yn Oriel Mission rydyn ni’n falch o gynnig ein gofod gweithdy gwych sydd ar gael ar gyfer parti celf a chrefft unigryw eich plentyn chi. P’un a ydych chi’n dathlu pen-blwydd arbennig iawn neu eisiau rheswm i ddod at eich gilydd gyda ffrindiau a theulu. Bydd ein tîm yn Oriel Mission yn sicrhau bod y diwrnod yn llawn hwyl a chreadigrwydd.

Gallwn deilwra’r sesiwn 2 awr o hyd i ddiwallu eich holl anghenion gyda gweithgaredd o’ch dewis chi – boed hynny’n ymgolli mewn paent a chlai, neu ddysgu sgil newydd fel gwneud printiau – fe gewch chi ddewis! Gyda’r opsiwn ychwanegol o fag nwyddau wedi’i lenwi â deunyddiau celf a chrefft o safon i fynd adref gyda chi, gall eich taith artistig barhau ymhell ar ôl i’r gweithdy ddod i ben. 

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw faneri a balŵns gyda chi i’r dathliad. Byddwn ni’n darparu diodydd meddal, ond byddem yn eich annog i ddod ag unrhyw ddanteithion arbennig yr hoffech eu rhannu â’ch ffrindiau/teulu. 


Gweithgare dd o'ch dewi chi 

Peintio Sidan

Modroc

Cerameg

Gweneud printiau ar decstilau

 

I drefnu neu drafod eich Parti Celf a Chrefft ymhellach, cysylltwch â Megan Leigh, y Rheolwr Allgymorth, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, ar yr amod eu bod ar gael. Mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

 

Art Party Set-Up

 


Gwynt Traed y Meirw

Gwynt Traed y MeirwNigel Hurlstone

24 Ionawr - 04 Ebrill 2026

Mwy