Mae Shanzay Subzwari a Lauren Heckler yn archwilio profiad sain cydweithredol, gan feithrin trafodaeth ar ddiddordebau cyffredin mewn themâu cymdeithasol-wleidyddol, ffiniau, poblogrwydd a/neu ddiwylliant defnyddwyr Pacistan a Chymru.’

Roedd eu darn sain cydweithredol They Send Each Other Love yn sgwrs 50 munud rhyngddynt ar WhatsApp. Roedd y ddau wedi eistedd mewn mannau o harddwch naturiol (yn Karachi, Pacistan a’r Fenni, Cymru), a symud drwy amrywiaeth eang o bynciau oedd yn amrywio o’u profiadau unigol, i’w hamgylchedd, eu diwylliannau a’u nodweddion tebyg. Cafodd y darn hwn, gyda thestun disgrifiad sain cysylltiedig, ei arddangos yn Oriel Mission, Abertawe ym mis Ionawr 2023.

 


 

Ar ôl cydweithio’n ddigidol yn bennaf, roedd Lauren a Shanzay wedi gallu cwrdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethon nhw gynhyrchu fideo o’r enw Sister Sing a Song. Mae’r darn yn arddangos Shanzay a Lauren yn eistedd mewn ystafell yn sownd i gartref teuluol Lauren, ac wrth i Shanzay ganu alaw a ddysgodd yn ei Hysgol Gwfaint Genhadol (CJM) yn Karachi sy’n mawrygu’r sylfaenydd, y Chwaer Claudine, mae Lauren yn canu hwiangerdd am frenin a brenhines ar yr un alaw. Mae eu lleisiau wedi’u troshaenu  ar ffurf penillion oedd â’r un alaw. Nid oedd yr un o’r ddwy wedi clywed caneuon ei gilydd cyn iddynt gwrdd, ac roedd y darganfyddiad hwn yn syndod i’r ddwy ohonynt. Mae’r gwaith yn enghraifft o ganlyniad gwladychiaeth a rhannu gwybodaeth a syniadau rhwng y ddau ddiwylliant. Nid yw’r gwaith hwn wedi cael ei ddangos i’r cyhoedd o’r blaen.

Dechreuodd cyfeillgarwch Shanzay a Lauren dros sgyrsiau Whatsapp dros gyfnod o flwyddyn a hanner fel rhan o raglen wedi’i hariannu gan Cyngor Prydeinig Cymru a ddaeth â 5 artist o Bacistan a 5 artist o Gymru at ei gilydd, ac mae eu gwaith yn dyst i’r cyfeillgarwch hwnnw.


 

 

Mae Sefydliad Menywod y Byd yn bodoli i feithrin, cynnull a chynnal mudiad byd-eang sy’n credu bod byd sy’n gyfartal o ran rhywedd yn ddymunol ac yn bosibl a bod taer angen byd o’r fath.

Sefydlwyd WOW – Menywod y Byd gan Jude Kelly yn 2010, pan gynhaliwyd Gŵyl gyntaf WOW yng Nghanolfan Southbank. Ers hynny, mae Gwyliau WOW sy’n dathlu menywod a merched, ac sy’n edrych yn onest ar y rhwystrau y maent yn eu hwynebu, wedi cael eu cynnal ledled y byd, gan gyrraedd pum miliwn o bobl hyd yma.

Drwy wyliau, digwyddiadau, rhaglenni ysgolion a mwy, mae WOW yn herio’r gred bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau eisoes wedi’i gyflawni – ac yn gobeithio cysylltu’r dotiau rhwng pobl, mudiadau a syniadau er mwyn newid y byd.

Hyd yma, mae WOW wedi cynnal dros 100 o wyliau a digwyddiadau ar draws chwe chyfandir, gan gyrraedd dros bum miliwn o bobl.

Roedd yr arddangosfa hon yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Prydeinig Cymru.