Dydd Sul 21ain Gorffennaf 2024

Technegau Llifo Batic ac Indigo gyda Sara Holden

Gweithdy i oedolion | 11am- 3pm | £50

Eventbrite:Technegau Llifo Batic ac Indigo gyda Sara Holden 

Hyfforddwyd Sara Holden yn Artist Cain yn Ysgol Gelf Wimbledon ac mae bellach yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys paentio, cerflunio a batic. Mae Sara, sy’n byw ac yn gweithio fel artist ar Benrhyn Gŵyr, yn cael ei hysbrydoli gan yr arfordir ac mae’n aml yn defnyddio delweddau morol yn ei gwaith. Ar gyfer ei gwaith celf lle mae’n defnyddio batic ac indigo i lifo, mae Sara’n canolbwyntio ar brosesau creadigol sydd wedi’u gwreiddio yn neunyddiau a grymoedd y byd naturiol. Gan ddefnyddio gwahanol dechnegau tecstilau, mae hi’n creu gwaith celf unigryw wrth archwilio celfyddydau ffibr hanesyddol gan ddefnyddio batic, llifynnau naturiol, echdynnu pigmentau, a thrin arwynebau.

Uchafbwyntiau’r gweithdy:

Mewn batic, does dim camgymeriadau, dim ond byd o bosibiliadau i’w mwynhau wrth greu nodau a lliw.  Gwyliwch wrth i chi weld dyluniadau’n dod i’r amlwg yn y baddon llifynnau a chewch archwilio’r grefft ddigyfnewid hon.  Er bod batic yn ffurf hynod draddodiadol, mae hefyd yn ffurf celf tecstilau gyffrous a chyfoes – mae’n un o’r dulliau mwyaf cynnil a llawn mynegiant o’r dulliau gwrthsefyll, ac mae i hynny, o’i gyfuno â llifyn glas wybrennol Indigo, botensial cyfoethog o ran dylunio a chreu patrymau.

Yn ystod y gweithdy hwn, bydd ffocws ar ddefnyddio llifyn indigo a thechnegau dipio-a-llifo a gwrthsefyll sylfaenol fel Batik a Shibori (clymu a llifo), gan roi digon o gyfle i arbrofi gyda’r ffurf.  Mae llifyn glas nodweddiadol indigo yn cael ei ystyried yn rhyfeddol a hudolus, gyda’r broses lifo yn cael ei chyffelybu i alcemi pan fydd y sbectrwm lliwiau (sy’n cynnwys melyn, gwyrdd, porffor, glas ac arian) yn ymddangos yn y cafn llifo.  Bydd Sara yn tywys aelodau’r gweithdy drwy dechnegau sylfaenol batic a llifo indigo yn y gweithdy blasu hwn.

Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan ddod ag unrhyw batrymau syml a syniadau yr hoffent eu defnyddio gyda nhw i’r gweithdy.

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.