11am-12:30pm | 7+ | £7
Bywgraffiad o’r artist:
Mae Lowri Ann yn artist amlddisgyblaethol o Abertawe, a raddiodd yn ddiweddar mewn Celfyddyd Gain o Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Ysbrydolir ei gwaith gan ei threftadaeth Gymreig ac mae’n ymdrin ag estheteg gwladychiaeth fewnol a sut olwg fyddai ar hynny. Gan dynnu ar ei diddordeb mewn celf perfformio a gwaith Pierre Bordieu, mae Lowri yn ymddiddori yn y broses o adennill traddodiadau sydd wedi’u malurio, eu hanghofio neu eu hatal o ganlyniad i foderniaeth. Mae ei phrosiect cyfredol ‘Malurion’ yn parhau â’i diddordeb mewn celf fel modd ymarferol o archwilio hanes, traddodiad, ffeministiaeth a chymunedau Cymru.
instagram: @lowriann_
Ymunwch â ni ar ym Mission Gallery am weithdy ‘Sut i greu llwy garu’
Yn ystod y gweithdy bydd cyfle i greu llwyau caru gan ddefnyddio deunyddiau o draethiau lleol, gan fyfyrio ar hanes, cymunedau, a thraddodiadau Cymru.
Yn addas i deuluoedd – mae croeso i bawb greu, ymlacio a mwynhau gweithdy creadigol a chydweithredol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd, cysylltwch gyda ni.
Diolch!
Gellir cyflwyno’r sesiwn hon yn Gymraeg
*I osgoi ffioedd eventbrite gallwch ffonio’r oriel yn uniongyrchol ar 01792652016 i archebu eich lle
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.