11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50
Nodyn:
Hoffech chi fwynhau’r gweithdy yma gyda ffrind neu aelod o’r teulu?
Rydym ni’n cynnig cyfle i brynu un a chael un hanner pris ar ein gweithdy Pyrograffeg i oedolion.
Rhaid prynu 1 tocyn pris llawn i’ch galluogi i fwynhau tocyn hanner pris, cysylltwch ag Oriel Mission ar 01792 652016
Bywgraffiad yr artist:
Roedd Declan Stuart (enw artist D’Captured) yn ddigartref yn 2022, ond gyda help yr elusen Crisis, bu iddo ganfod ei gariad at byrograffeg / llosgi coed. Mae’r cyfrwng hwn yn golygu bod angen dinistrio rhywbeth er mwyn creu celf. Mae D’Captured o’r farn fod y cyfrwng hwn yn ffordd dda o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae’n mwynhau cael canolbwyntio ar greu llinellau. Erbyn hyn, mae D’Captured yn cynnal gweithdai pyrograffeg er mwyn helpu eraill i ofalu am eu llesiant ac i fod yn greadigol. Mae D’Captured hefyd yn creu gwaith celf i’w werthu ac yn creu darnau comisiwn.
Crynodeb o’r Gweithdy:
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch chi’n cael cyfle i greu a llosgi eich dyluniad ar ddarn o bren. Bydd arweinydd y gweithdy yn eich helpu chi, ac mae croeso i chi ddefnyddio stensiliau – neu gallwch chi fod yn greadigol a gwneud y cyfan â llaw!
Mae croeso i chi ddod â dyluniad penodol gyda chi, mae nifer o wahanol ffyrdd o roi’r dyluniad ar y pren a gallwch chi wneud hyn yn y sesiwn, ond nid yw’n hanfodol. Wedi i’r dyluniad gael ei roi ar y pren, gallwch chi ddechrau llosgi.
Byddwch chi’n cael cylch 30cm i weithio ag o yn gyntaf, ac yna bydd cyfle i chi ddewis eich darn eich hun; bydd siapiau a meintiau amrywiol ar gael. Bydd pob aelod yn cael pensil losgi ddeuol, sydd â dau ben gwahanol er mwyn gallu creu gwahanol fathau o linellau. Rydym ni’n eich annog chi i arbrofi, ac i fod yn greadigol, a byddwn ni’n rhannu cyngor a thriciau gyda chi er mwyn i chi allu creu darnau manwl ac unigryw. Ar ddiwedd y sesiwn byddwch chi’n cael dewis os ydych chi eisiau selio’r darnau neu ddod yn ôl i weithio arnynt yn ddiweddarach.
Mae’r gweithdy hwn wedi ei ddylunio i fod yn addas ar gyfer pobl o bob lefel artistig. Byddwch chi’n derbyn arweiniad arbenigol gan yr artist ac yn gadael â darn o waith celf unigryw y byddwch chi’n falch ohono.
Eventbrite: Pyrograffeg gyda D’Captured
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
—
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.