11am-2:30pm | Gweithdy i oedolion | Am ddim*

(yn cynnwys ½ awr o egwyl)

 

*Gofynnir am flaendal o £15 er mwyn cadw lle, i’w ad-dalu i chi ar y diwrnod, neu i’w adael fel rhodd i raglen Allgymorth ac Arddangosfeydd Oriel Mission.

** TOCYNNAU I FYND YN FYW AR DDYDD GWENER 20 MEDI AM 10YB **

Fel rhan o ddathliadau Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas mae We are all artists Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud ag adrodd storïau, drwy gyfrwng cerameg a darluniau.

Eventbrite: Modrwyau Parti 

 

Bywgraffiad yr Artist

Mae Katherine (neu Kat) Silvera-Sunley yn fenyw o Jamaica sydd wedi byw mewn llawer o leoedd, cyn setlo mewn hen dref lofaol yng nghymoedd y De. Astudiodd Gelfyddyd Gain ym Mryste, ond bu’n datblygu ei gwaith celf am amser maith cyn hynny. Dechreuodd ymddiddori mewn cerameg pan oedd yn byw ym Malta fel ffordd o wneud ei gwaith celf yn haws i’w gario o gwmpas. Mae’n creu mewn stiwdio yn ei chartref, ac mae wrth ei bodd yn gwneud celf sydd o fewn cyrraedd pobl, yn ariannol ac yn ddeallusol.

Mae’n credu bod lle ym myd celf gyfoes/celf gain i waith sy’n caniatáu i ni fynegi pa bynnag emosiwn y mae arnom eisiau ei fynegi – boed yn hapusrwydd neu dristwch, heb iddo fod yn rhywbeth anghynhwysol, cymhleth neu gysyniadol iawn ei natur.

 

Amlinelliad

Bydd Kat yn dangos i chi sut y mae’n adeiladu modrwyau â llaw ac yn eu haddurno gan ddefnyddio tanwydredd lliwgar.

Byddwch hefyd yn creu dysglau modrwyau bach a chonau modrwyau er mwyn storio eich modrwyau newydd.

Bydd Kat yn dechrau drwy ddangos pob cam o’r broses o wneud modrwyau.

Yna byddwch chi’n cael tro, ac ar ôl i bawb wneud ei fodrwyau (byddwch yn gwneud 2-3 modrwy) gallwch weithio ar eich dewis chi o ddysgl modrwyau syml neu gôn modrwyau. Ar ôl egwyl fer cewch addurno eich modrwyau a’r dysglau/conau.

Yna bydd Kat yn mynd â’ch creadigaethau gyda hi i’w stiwdio i’w tanio, a bydd yn trefnu eich bod yn cael eu casglu o’r oriel ar ddyddiad yn nes ymlaen.

 


 

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

 


 

‘Artistiaid Ydym Oll’ a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.