Gwneud basgedi ffrâm gyda Lewis Prosser
Dydd Sadwrn 11 Hydref
10am-3pm | Gweithdy i oedolion | Am ddim
Mae’r gweithdy hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, dathliad Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud â chrefft – boed hynny’n arbrofi gyda sgiliau crefft treftadaeth neu brosesau newydd, gobeithio y gwnewch chi fwynhau!
Archebwch docynnau:Gwneud basgedi ffrâm gyda Lewis Prosser
* Archebwch eich lle trwy’r wefan allanol Visit Swansea Bay, sydd yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe. Defnyddiwch y linc isod i gadw eich lle. Er gwybodaeth, nid oes gan Oriel Mission mynediad i’r system archebu ac felly nid ydym yn gallu cynorthwyo ceisiadau; am ymholiadau i ymwneud ac argaeledd, cysylltwch â Visit Swansea Bay.
Bywgraffiad yr artist
Mae Lewis Prosser yn artist ac yn wneuthurwr basgedi absẃrd, ac mae ei waith yn archwilio’r modd y mae crefft a diwylliant dod ynghyd. Drwy addysgu, mae Lewis yn ceisio ailgysylltu pobl â’r tir, trosglwyddo sgiliau traddodiadol, ac annog dehongliadau newydd ar gyfer y byd modern.
Trosolwg
Bydd y gweithdy hwn yn eich tywys drwy’r broses o greu basged ffrâm gadarn gyda handlen.
Mae basgedwaith ffrâm yn ymarferol a gellir ei addasu at amrywiaeth o ddibenion. Mae basgedi ffrâm ymhlith y mathau hynaf o fasgedi wedi’u gwehyddu, ac maen nhw i’w gweld ym mhedwar ban byd. Yng Nghymru, mae ganddynt arwyddocâd arbennig – cawsant eu poblogeiddio yn y 19eg ganrif ac mae lluniau o bobl yn hel cocos gyda’u basgedi.
Yn y cyflwyniad cryno hwn byddwch yn dysgu egwyddorion adeiladu ffrâm gan ddefnyddio cylchoedd helyg, siapio’r fasged ac ychwanegu asennau, ac archwilio gwahanol dechnegau pacio a gwehyddu. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd gennych chi ddealltwriaeth gadarn o hanfodion y grefft hanesyddol hon.
Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer. Does dim angen profiad blaenorol.
Sylwch: mae angen deheurwydd i wehyddu basgedi a gall fod yn anodd ar y dwylo.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n ddathliad deuddydd AM DDIM o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Fe’i cynhelir ddydd Sadwrn 11 Hydref rhwng 10am a 10pm a dydd Sul 12 Hydref rhwng 10am ac 11pm, a bydd yr ŵyl yn trawsnewid y ddinas yn ganolfan o ysbrydoliaeth, gan ddod â cherddoriaeth, celfyddydau gweledol, a pherfformiadau byw at ei gilydd i bawb eu mwynhau.
Dros y penwythnos, gall ymwelwyr archwilio cymysgedd deinamig o raglenni wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion a theuluoedd. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
Cerddoriaeth a Pherfformiadau Byw – o dalentau lleol i berfformwyr gwadd arbennig, a fydd yn llenwi lleoliadau a mannau awyr agored â sain ac egni.
Arddangosfeydd a Gosodiadau – sy’n arddangos gwaith cymuned greadigol ffyniannus Abertawe ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Gweithdai a Phrofiadau Rhyngweithiol – cyfleoedd ymarferol i bobl o bob oedran fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig unigryw.
Adloniant Stryd a Digwyddiadau Dros Dro – perfformiadau a chyfleoedd chwarae annisgwyl ar draws canol y ddinas.
Sgyrsiau am y diwydiant – sesiynau llawn gwybodaeth gyda rhai o dalentau gorau Cymru.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe, y mae orielau, mannau digwyddiadau, theatrau a lleoliadau awyr agored i gyd yn cymryd rhan ynddo, yn fwy na gŵyl gelfyddydol yn unig – mae’n gyfle i ddathlu creadigrwydd, ymgysylltu â’r gymuned a darganfod rhywbeth newydd ar bob cyfle.
P’un a ydych wedi dwlu ar y celfyddydau erioed neu’n chwilio am ddiwrnod allan difyr, mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n addo ysbrydoliaeth, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.