Sesiynau awr o hyd ar gael i ddau deulu ar y tro
Blaendal o £10 i bob teulu
Gallwch chi ofyn am hwn yn ôl ar ddiwedd y sesiwn, neu ei roi yn rhodd i Raglen Allgymorth Mission Gallery
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda’r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
10 – 11am
11am – 12pm
12 – 1pm
LUNCH
2-3pm
3 – 4pm
Bywgraffiad: Lowri Davies
Rwy’n gweithio fel artist seramig ers 2001, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio o’m stiwdio yn Fireworks, Caerdydd. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar greu llestri bwrdd tsieina sydd â darluniau arnynt.
Rwyf i bob amser yn awyddus i ddatblygu fy ngwaith creadigol, ac rwy’n gwneud hyn drwy arbrofi â phrosesau trin porslen â llaw, defnyddio technegau printio newydd, gwthio ffiniau tryloywder llestri tsieina a phorslen gyda Lithoffanau, datblygu fy nealltwriaeth o batrwm a lliw, heb anghofio’r hyn a wnaeth i mi syrthio mewn cariad â chelf i ddechrau, sef gweithio ag inc a dyfrlliw.
Crynodeb
Yn ystod y gweithdy, byddwch chi a’ch teulu yn cael cyfle i weithio yn ein gofod arddangos sydd ar hyn o bryd yn gartref i’n sioe Merched ar Lestri. Byddwch chi’n cael hyfforddiant personol gan Lowri Davies, un o’r artistiaid sy’n arddangos ei gwaith yma. Bydd eich teulu’n cael cyfle i addurno platiau a theils gwyn sgleiniog ac arbrofi ag amrywiaeth o wahanol batrymau a lliwiau er mwyn creu darnau unigryw. Bydd y teils yn cael eu crasu a’u dychwelyd i’r galeri i chi eu casglu. Gallwch gyfeirio at y deunyddiau a ddefnyddir i addurno’r platiau fel patrwm seramig neu drosglwyddiadau seramig.
Eventbrite: Gweithdy seramig i’r teulu – Gweithdy addurno plât
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.