Am ddim

7+ oed

11yb  –  12.30yp

 

 

Eventbrite: Gweithdy peintio arbrofol 

 

Ymunwch â ni yn yr oriel ar gyfer gweithdy darlunio a pheintio i arbrofi a chael hwyl! Dyma gyfle i chwarae gyda lliwiau a gwead, gan ddefnyddio deunyddiau gwneud marciau o’r traeth i greu paentiadau lliwgar wedi’u hysbrydoli gan y llanw a’r traeth.

 

Mae’r gweithdy am ddim ond rydym yn croesawu rhoddion i gefnogi ein rhaglen gweithdy.

 

 

Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.

 

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.