Gweithdy Paentio Gwydr Lliw Traddodiadol, gyda Zoe Boulton
Dydd Sul 12fed Hydref
11am-3pm | Gweithdy i oedolion | Am ddim
Mae’r gweithdy hwn yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, dathliad Cyngor Abertawe o gelf ar hyd a lled y ddinas. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu popeth sy’n ymwneud â chrefft – boed hynny’n arbrofi gyda sgiliau crefft treftadaeth neu brosesau newydd, gobeithio y gwnewch chi fwynhau!
Bywgraffiad yr artist
Mae arfer proffesiynol Zoe yn cwmpasu gwaith cadwraeth ac adfer, gwydro addurnol ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, ac addysgu pobl, o ddechreuwyr i ôl-raddedigion. Yn ei harfer personol, mae Zoe yn creu gwaith sy’n archwilio delweddau o lên gwerin a llenyddiaeth ganoloesol. Mae’n defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau, gan gynnwys euro ac ysgythru asid i greu gwaith annibynnol sy’n manteisio ar briodoleddau materol unigryw gwydr. Gweithdy AM DDIM i oedolion 16 oed ac yn hŷn. Nid yw’n addas i’r rhai hynny sy’n feichiog neu sy’n bwydo ar y fron, oherwydd natur y deunyddiau a ddefnyddir. Mae Oriel Mission yn eich gwahodd i ddathlu crefftau o bob math – ni waeth a ydych yn arbrofi â hen sgiliau crefft neu brosesau newydd, rydym yn gobeithio y byddwch yn cael amser da!
Ar ddiwedd y sesiwn, caiff eich darnau eu tanio mewn odyn. Byddant yn gorffen mewn ffrâm blwm, â dolenni i’w hongian. Bydd modd casglu’r darnau o Oriel Mission dros y penwythnos canlynol. Mae Zoe Boulton yn artist gwydr lliw sydd wedi’i hyfforddi’n draddodiadol. Mae’n canolbwyntio ar dechnegau a deunyddiau y gellir eu defnyddio at lawer o ddibenion hanesyddol a chyfoes.
Trosolwg
Mae’r gweithdy hwn i oedolion yn cynnig cyflwyniad i hanfodion paentio gwydr traddodiadol, gan gynnwys cymysgu paent ac archwilio gwahanol frwshys, offer a thechnegau i gyflawni amrywiaeth o orffeniadau. Darperir yr holl ddeunydd a chyfarpar diogelu personol. Gan gael eich ysbrydoli gan arferion gwydr lliw o sawl cyfnod, cewch y cyfle i brofi meinder paent gwydr lliw a dysgu sut i’w drin er mwyn creu detholiad o ddarnau addurnol.
Rhagor o Wybodaeth. Bydd y gweithdy’n dechrau drwy roi cyflwyniad i’r diwrnod a’r gofynion iechyd a diogelwch. Rhaid i bob cyfranogwr wisgo esgidiau wedi’u gorchuddio, oherwydd y defnyddir gwydr. Darperir cyfarpar diogelu personol ychwanegol, gan gynnwys ffedogau, i ddiogelu dillad, a mygydau i ddiogelu rhag y paent lliw pan fydd yn sych.
Bydd menig nitril ar gael i’r rhai hynny sydd am eu gwisgo. Darperir amrywiaeth o wydr nadd i bawb, ynghyd â’r holl offer angenrheidiol ar gyfer y sesiwn. Gan ddefnyddio cyfeiriadau hanesyddol o ffenestri gwydr lliw, rhoddir arddangosiad o sut i gymysgu’r pigment a disgrifiad byr o’r mathau o offer a brwshys a sut i’w defnyddio. Yna dangosir i’r cyfranogwyr sut i ddodi’r haenen waelod o baent, ynghyd ag unrhyw haenau a thechnegau ychwanegol a ddefnyddir i gyflawni dyluniad addurnol. Ar ôl y cyflwyniad cychwynnol, bydd cyfle i gael seibiant byr.
Yna byddwn yn dechrau cymysgu’r pigment ac yn dechrau paentio. Darperir cymorth unigol ac arddangosiadau ychwanegol yn ôl yr angen, a bydd gweddill y sesiwn yn canolbwyntio ar arbrofi er mwyn creu darnau gorffenedig. Ar ddiwedd y sesiwn, caiff gwaith pawb ei gasglu a’i danio mewn odyn dros nos. Caiff y darnau eu dychwelyd mewn ffrâm blwm, â dolenni i’w hongian. Bydd y rhain ar gael i’w casglu o Oriel Mission o’r penwythnos canlynol.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n ddathliad deuddydd AM DDIM o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Fe’i cynhelir ddydd Sadwrn 11 Hydref rhwng 10am a 10pm a dydd Sul 12 Hydref rhwng 10am ac 11pm, a bydd yr ŵyl yn trawsnewid y ddinas yn ganolfan o ysbrydoliaeth, gan ddod â cherddoriaeth, celfyddydau gweledol, a pherfformiadau byw at ei gilydd i bawb eu mwynhau.
Dros y penwythnos, gall ymwelwyr archwilio cymysgedd deinamig o raglenni wedi’u cynllunio ar gyfer oedolion a theuluoedd. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
Cerddoriaeth a Pherfformiadau Byw – o dalentau lleol i berfformwyr gwadd arbennig, a fydd yn llenwi lleoliadau a mannau awyr agored â sain ac egni.
Arddangosfeydd a Gosodiadau – sy’n arddangos gwaith cymuned greadigol ffyniannus Abertawe ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Gweithdai a Phrofiadau Rhyngweithiol – cyfleoedd ymarferol i bobl o bob oedran fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig unigryw.
Adloniant Stryd a Digwyddiadau Dros Dro – perfformiadau a chyfleoedd chwarae annisgwyl ar draws canol y ddinas.
Sgyrsiau am y diwydiant – sesiynau llawn gwybodaeth gyda rhai o dalentau gorau Cymru.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe, y mae orielau, mannau digwyddiadau, theatrau a lleoliadau awyr agored i gyd yn cymryd rhan ynddo, yn fwy na gŵyl gelfyddydol yn unig – mae’n gyfle i ddathlu creadigrwydd, ymgysylltu â’r gymuned a darganfod rhywbeth newydd ar bob cyfle.
P’un a ydych wedi dwlu ar y celfyddydau erioed neu’n chwilio am ddiwrnod allan difyr, mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n addo ysbrydoliaeth, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Safiyyah Altaf,Swyddog Creadigol Allgymorth,outreach@missiongallery.co.uk ar 01792 652016
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.