11 yb – 12.30 yb

7+ oed

Eventbrite: Gwneud Mygydau

 

Ymunwch â ni yn Oriel Mission am weithdy gwneud mygydau yn ystod yr haf. Byddwch yn cael mwynhau ein harddangosfa bresennol ‘Gall hwn fod yn freuddwyd’, creu eich dyluniad unigryw eich hun a gweithio gyda thecstilau ac edau ar ôl cael eich ysbrydoli gan waith celf Non.

Bydd hwn yn sesiwn hamddenol a hwyliog yng ngofod addysg yr oriel lle bydd plant yn cael eu hannog i fynegi eu creadigrwydd ac arbrofi gyda deunyddiau.

Byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau.

Rydyn ni eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ac rydyn ni’n gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.