Am ddim

7+ oed

11yb  – 12.30yp

 

Eventbrite: Gweithdy cerflunwaith a chastio

 

 

Ymunwch â ni yn yr oriel ar gyfer gweithdy cerflunwaith a chastio. Dyma gyfle i greu cerfluniau gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu a dysgu technegau castio gan ddefnyddio gwrthrychau wedi’u canfod i’w hychwanegu at eich dyluniad. Arbrofwch gyda lliwiau a siapiau, uwchgylchu plastig o’r môr a gwneud eich darn unigryw eich hun i fynd adref gyda chi.

 

Mae’r holl ddeunyddiau wedi’u cynnwys, ond efallai yr hoffech ddod â’ch gwrthrych eich hun i’w gastio neu gasglu plastig lliwgar o draeth cyfagos i’w ychwanegu at eich dyluniad.

 

 

 

Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo hyd oed ychydig bach yn anhwylus byddwn ni’n gofyn i chi aros gartref ond rhowch wybod i ni os na fydd eich plentyn yn mynychu’r sesiwn y diwrnod hwnnw.

 

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu ar 01792 652016 neu e-bost megan@missiongallery.co.uk

Darperir deunyddiau, nifer y lleoedd yn gyfyngedig, rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion mynediad, alergeddau neu anhwylderau meddygol.