Dydd Sul 23 Mehefin 2024

Cynaliadwyedd Creadigol drwy Uwchgylchu Defnyddiau – Ffeltio Fysedd gydag Elin Manon

Gweithdy i oedolion | 11am- 3pm | £50

Eventbrite: Cynaliadwyedd Creadigol drwy Uwchgylchu Defnyddiau – Ffeltio Fysedd gydag Elin Manon 

 

Cafodd y cwmni Elin Manon ei sefydlu yn ne Cymru yn 2018, gyda’r bwriad o ddarparu dillad cylchol, crefftus ac â chymeriad. Yn darparu dillad gwau ac ategolion o ansawdd uchel, mae ei dyluniadau’n cael eu hysbrydoli gan hiraeth a threftadaeth Cymru, ac yn cael eu creu gan decstilau moethus dros ben. Mae ei gwaith yn profi bod cynaliadwyedd a steil eclectig yn mynd law yn llaw. Mae’n gwneud pethau mewn ffordd unigryw, ac yn creu casgliadau bach mewn sypiau cyfyngedig er mwyn sicrhau gwerth ym mhob dilledyn.

 

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ffeltio â nodwydd a fydd yn ddiddorol, yn eco-gyfeillgar ac yn canolbwyntio ar uwchgylchu defnyddiau! Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn berffaith i ddechreuwyr ac i grefftwyr profiadol fel ei gilydd, gan gyflwyno’r grefft o ffeltio gwlân wrth bwysleisio arferion cynaliadwy. Cyfle i drawsnewid hen ddefnyddiau ac edafedd yn greadigaethau hardd, ymarferol ac artistig. Neu’n well byth, dewch â’ch dillad eich hun i’w haddurno.

 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

 

-Dysgu sut mae ffeltio ac uwchgylchu yn cyfrannu at gynaliadwyedd ac yn helpu i leihau gwastraff tecstilau

 

-Dysgu hanfodion ffeltio, pa offer a chyfarpar sydd eu hangen, pa ddefnyddiau sy’n gweithio orau, sut i ffeltio tecstilau gwastad, sut i gyfuno defnyddiau, a sut i wneud ambell siâp syml

 

-Dysgu sut gallwch chi ddefnyddio deunyddiau sydd gennych chi’n barod, fel llenni rhwyllog, hen edafedd, hen gadachau a hen siwmperi wedi’u gwau.

 

Erbyn diwedd y gweithdy, bydd gennych chi weithiau celf wedi’u gwneud â ffelt, yn ogystal â’r sgiliau i fynd ati i wneud hynny gartref.

 

Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.

 

Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.

Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.

Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.

Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.

Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.