Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer cyfres o chwe sesiwn o’r clwb celf ble cewch y cyfle i archwilio deunyddiau a thechnegau o fewn awyrgylch hamddenol a hwylus. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ac yn cael cymorth i fagu hyder creadigol. Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal gan artistiaid creadigol a’r tîm ymgysylltu.

 

Dilynwch y ddolen isod i archebu lle

Eventbrite: Cyfres o Weithdai’r Clwb Celf 

Y gost yw £50 am 6 sesiwn. Er hyn, mae bwrsariaeth bach ar gael – cysylltwch i gael mwy o wybodaeth.

Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar nos Fercher rhwng 6pm a 8pm.

 

Oed 11 – 16 (Ysgol Uwchradd)

 

Nos Fercher 7 Rhagfyr

Nos Fercher 14 Rhagfyr

Nos Fercher 21 Rhagfyr

Nos Fercher 4 Ionawr

Nos Fercher 11 Ionawr

Nos Fercher 18 Ionawr

___________________________________

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk

Darperir y nwyddau i chi a rhaid i chi archebu eich lle oherwydd nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.

O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr at ein prif fynedfa. Mae gennym ni ramp dros dro ar gael ar ofyn. Cynhelir y gweithdai yn yr ystafell addysg ar lawr cyntaf yr oriel. Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae grisiau serth yn mynd at yr ystafell addysg ar y llawr cyntaf.  Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.

Gall y dosbarthiadau gael eu canslo/gohirio ar fyr rybudd oherwydd yr amgylchiadau rydym yn gweithredu ynddynt. Er hyn, byddwn yn eich rhybuddio mor fuan â phosib os oes angen.