Dydd Sadwrn 14eg Chwefror
11yp-12:30yb | 7+ | £7
Gweithdy i’r Teulu
Calonnau Coed Helyg
Dewch fel teulu i greu calon coed helyg ar Ŵyl Sant Ffolant. Byddwn yn defnyddio canghennau coed helyg hyfryd i’w plygu ac i greu siâp calon. Gallwch addurno eich gwaith gyda rhubanau a gleiniau i wneud rhywbeth arbennig llawn cariad ar Ŵyl Sant Ffolant.
Byddwn yn darparu’r holl ddeunyddiau.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o’n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.