Residence

Gwobr Jane Phillips : Preswyliad Digidol

17th May 2025 - 31st July 2025

Rydym ni’n cynnig lle ar-lein ar wefan Gwobr Jane Phillips i arddangos a datblygu gwaith, syniadau ac ymchwil, gan gynnig cymorth a hysbysiad trwy ein rhwydweithiau.

Mae’n bleser gan Oriel Mission gyhoeddi cyfnod preswyl 2025 ar gyfer Myfyrwyr Celf a Dylunio Sylfaen Coleg Celf Abertawe, PCYDDS. Rydym yn ymfalchïo gweithio gyda Coleg Gelf Abertawe, PCYDDS ac yn edrych ymlaen at bwysleisio ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan fyfyrwyr. Mae’r cyfnod preswyl yma yn darparu gwagle arlein ar wefan Gwobr Jane Phillips i arddangos a datblygu gwaith, syniadau ac ymchwil, gan gynnig cymorth a hysbysiad trwy ein rhwydweithiau.

Bydd derbynwyr y Cyfnod Preswyl yn cael eu dethol gan Rhian Wyn Stone, Cyfarwyddwr Oriel Mission, ar ran Gwobr Jane Phillips.

 


 

AM GWOBR JANE PHILLIPS 

Cafodd y wobr ei greu yn 2011 er cof am Jane Phillips (1957 – 2011), cyfarwyddwr cyntaf Oriel Mission. Mae’r wobr yn gymynrodd i angerdd Jane am feithrin talent, yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel – gan gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ag artistiaid ar ddechrau eu taith.

janephillipsaward.com