Cyfnodau Preswyl

  • Header image

Cyfnod Preswyl Creadigol: Rhan TriAnthony a Kel Matsena

15 Mawrth - 19 Mawrth 2022

Yn byw yn Abertawe ar hyn o bryd, mae’r coreograffwyr Anthony a Kel Matsena wedi cael eu gwahodd gan Oriel Mission i ymchwilio i a datblygu darn symud newydd i’w berfformio efallai yn yr oriel neu ar goedd yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Gydag aml i ymrwymiad wrth weithio gyda’u cwmni neu ar brosiectau unigol, mae Anthony a Kel yn cymryd yr amser yma i arbrofi a chreu gyda’i gilydd mewn gofod sy’n newydd iddynt yn nhref eu mebyd. Gan ddod â’u dulliau creadigol amlweddog a chyfoethog i Oriel Mission, bydd preswyliad Anthony a Kel yn edrych ar wahanol naratifau a materion personol a byd-eang drwy symud a sain.

Am | Anthony Matsena

Coreograffydd, perfformiwr a chyfarwyddwr a aned yn Simbabwe a’i fagu yng Nghymru yw Anthony sy’n gweithio rhwng cyfryngau’r ddawns, theatr, cerddoriaeth a barddoniaeth. Yn aml bydd ei waith yn wleidyddol ei naws gyda’r gobaith o wneud synnwyr o’i brofiad o gael ei fagu ar aelwyd Affroganolog a derbyn addysg Ewroganolog. Mae wedi meithrin chwilfrydedd a chariad tuag at ddweud straeon sy’n mynegi themâu o ddiwylliant, hil, newid a pherthyn.

Cydsefydlodd Anthony Gynyrchiadau Matsena (Theatr Berfformio Matsena gynt) gyda’i frawd Kel yn 2017 fel adwaith i’r diffyg cynrychiolaeth a welent mewn ysgolion, ar y llwyfan a’r sgrin. Roeddent ill dau’n teimlo nad oedd fawr o gwmnïau oedd yn gwneud gwaith seiliedig ar straeon pobl dduon a hwythau’n mynd ati i ddefnyddio eu gwahanol sgiliau mewn dawns Affricanaidd, hip-hop, gyfoes, rap, theatr a barddoniaeth.

Am | Kel Matsena

Actor, dawnsiwr ac awdur a aned yn Simbabwe a’i fagu yng Nghymru yw Kel Matsena. Dechreuodd Kel ddawnsio mewn triawd dawnsio stryd gyda’i frodyr Anthony ac Arnold, gan berfformio mewn gwyliau a digwyddiadau elusennol ynghyd ag ymddangos ar y teledu. Yna dechreuodd wneud bale a dawns gyfoes gydag Academi Ddawns Turning Pointe a’r Cwmni Dawns Ieuenctid Sirol, gan ddarganfod yn nes ymlaen ei gariad at actio yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Graddiodd yn ddiweddar o Ysgol Theatr yr Old Vic ym Mryste ac ymhlith ei waith diweddar mae Doctors y BBC, BOING yn yr Old Vic Bryste a thaith gydag A Monster Calls yn y DU/UDA. Cydsefydlodd Gynyrchiadau Matsena gydag Anthony Matsena ac ers hynny maent wedi defnyddio’r cwmni i greu llwyfan i adrodd straeon mwy beiddgar ac amrywiol. Yn ddiweddar, bu’n cydawdura Are You Numb Yet? a enillodd y Wobr “International Infallible” am y ‘sioe orau’ yng Ngŵyl Ddigidol yr Ymylon Caeredin 2020.

Am | Matsena Productions

Cwmni perfformio yw Cynyrchiadau Matsena sy’n canolbwyntio ar bob agwedd ar symud drwy ddefnyddio gwahanol gelfyddydau perfformiadol. Sefydlwyd y cwmni gan Anthony Matsena ac Amukelani Matsena.

Wedi’u geni yn Bulawayo a’u magu yn Abertawe, mae’r brodyr yn arwain y cwmni fel Cydgyfarwyddwyr Artistig. Maent wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn ymchwilio i symud a’i berthynas â’r cyflwr dynol drwy berfformio. A hwythau â chefndir mewn dawnsio Affricanaidd traddodiadol ac un helaeth mewn gwahanol ddulliau o hip-hop a krump, maent yn cyfuno symudiadau cyfoes i roi ystyr hollol newydd i berfformio. Yn cael eu gwefreiddio gan agweddau ar theatr, barddoniaeth ac ysgrifennu, mae gwaith y cwmni’n tueddu i gyfuno gwahanol agweddau ar y celfyddydau perfformiadol. Mae eu gwaith diweddar wedi denu sylw’n genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda pherfformiadau ar brif lwyfan Sadler Wells fel rhan o Dancing Nation, prosiect a gydlynir gan Sadler’s Wells a’r BBC.

@anthonymatsena

@kelmatsena

@matsenaproductions

Mae Anthony a Kel wedi ei cynrychioli gan United Agents 

 



Digwyddiadau Matsena Productions ar Ddod:


Codi gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

3 Mawrth - 16 Mai 2022

Cliciwch YMA am wybodaeth

Cyfnod Preswyl yn Oriel Mission, Abertawe 

15 - 19 Mawrth 2022

Shades of Blue yn Sadler’s Wells 

6/7th Mai 2022

Cliciwch YMA am wybodaeth

 

Matsena Productions logo

<< Yn ôl tudalen