Maker
Prosiect Piano BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Serameg a Gemwaith
22nd March 2025 - 26th April 2025
BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Serameg a Gemwaith
Prosiect i fyfyrwyr blwyddyn 2 a 3 yng Ngholeg Celf Abertawe, PCyDDS.
Wedi’i rannu’n ddwy ran; rhan un oedd y ‘Prosiect Piano’ (gyda’r beirniad David Bird) lle buom yn datgymalu piano toredig nad oedd neb ei eisiau, ac oedd ar ei ffordd i’r sgip, a rhoi bywyd newydd iddo mewn cymaint o ffyrdd. Ymatebodd rhai myfyrwyr yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r pren a’r allweddellau gwreiddiol; aeth eraill ati i weithio ar y sain yr oedd yn ei wneud neu’r siapiau haniaethol a gafodd eu mowldio i ddeunyddiau eraill fel serameg a gwydr.
Roedd rhan dau yn ymateb penodol i safle Neuadd Albert a adnewyddwyd yn ddiweddar, sef ein cymdogion drws-nesaf! Bu myfyrwyr yn ymchwilio i’r bensaernïaeth, yr hanes a straeon dyfnach sy’n gysylltiedig â’r adeilad gan gynnwys perfformwyr enwog fel Madam Patti. Arweiniodd yr ymchwil fanwl hon i adrodd straeon at bob math o ddarganfyddiadau annisgwyl! Daisy Thomas o gwmni Loft oedd y beirniad ar gyfer yr elfen hon; dewisodd eitemau i’w harddangos ar y sgrin fawr yn Neuadd Albert – gan ddod â nhw’n fyw yn yr union ofod a’u hysbrydolodd.
Bu Cyfarwyddwr Oriel Mission, Rhian Wyn Stone, yn bwrw golwg ar yr holl waith a gwblhawyd ar ddiwedd y prosiect, a dethol y rhai a ragorodd wrth ddod â chysyniad, proses a deunyddiau ynghyd mewn darn gorffenedig.
Diolch am gefnogaeth ein Beirniaid gwych David, Daisy a Rhian o Oriel Mission. Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i arddangos detholiad yn y gofod oriel hyfryd hwn.
Anna Lewis
Rheolwr Rhaglen
BA Crefftau Dylunio: Gwydr, Serameg a Gemwaith

Nissma Brown
Cyfuniad Sain
Mae Nissma yn fyfyriwr blwyddyn 2 sy’n archwilio ffurf trwy serameg arbrofol. Mae ei hymateb yn deillio o ffocws ar ffurfiau gwreiddiol y piano ac ymylon cerfiedig y pren. Wrth edrych yn ofalus ar y rhain, creodd Nissma gyfres o fowldiau metel i’w galluogi i allwthio ymylon anarferol i glai. Mae’r ffurfiau’n creu chwyrliadau haniaethol sy’n dod yn symbolaidd o’r ffordd mae’r sain yn llifo o amgylch y piano gwreiddiol. Y syniad hefyd yw rhyngweithio â’r darn fel y gallwch weld trwyddo yn debyg iawn i lens camera a chael persbectif gwahanol a ffocws cul.

Grace Ceridwen
Wedi’i hysgogi gan ddiddordeb mewn sylfeini cysyniadol a harddwch ymarferol celf, mae’r artist amlddisgyblaethol hon a aned yn Abertawe, ac sydd ag angerdd arbennig am waith coed, yn cyflwyno darn sy’n adennill lleisiau distawedig. Mae’r gwaith hwn yn cyfuno stori piano oedd wedi’i daflu o’r neilltu â hanes Neuadd Albert Abertawe a mudiad y Swffragetiaid.
Mae caead y piano, bellach wedi’i ailbwrpasu fel stôl – gyda choesau, ffrâm, a blwch storio oddi tano, i gyd wedi’i wneud o’r pren a achubwyd – yn anrhydeddu ei gerddoriaeth goll. Amlygodd ymchwil i brosiect Neuadd Albert hanes Clara Neal ac Emily Phipps, arweinwyr Cyngres Rhyddid y Menywod (WFL) yn ymladd dros yr hawl i bleidleisio. Mae delweddau wedi’u hargraffu â sgrin o’r menywod hyn a hysbysebion WFL o’r cyfnod yn cael eu fframio a’u harddangos uwchben ac o dan y stôl. Mae pob darn wedi’i staenio â thoddiant arbrofol o wlân-gwifren a finegr, wedi’i saernïo’n fanwl i adlewyrchu nid yn unig hen bren y piano, ond hanfod treigl amser wedi’i ysgythru arno. O fewn y prosiect hwn, roedd yn hollbwysig i’r artist dynnu sylw at y ffaith, yn union fel yr oedd llais y piano wedi cael ei dawelu, felly hefyd yr oedd lleisiau menywod yn cael eu hamddifadu o’u hawliau sylfaenol. Mae’r gwaith hwn yn weithred o adfer, symffoni weledol lle mae nodau coll y piano yn cyd-gordio â lleisiau parhaol y rhai a frwydrodd dros gydraddoldeb.

Julie Doel
Y Difa Gyfareddol: Adelina Patti
Mae Julie yn gerflunydd o Gastell Nedd ac mae ei gwaith sy’n seiliedig ar naratif yn cludo gwylwyr i deyrnasoedd bydol eraill. Mae ei gwaith wedi’i drwytho â hud a thywyllwch, gan gyfuno anifeiliaid ac elfennau pensaernïol yn ddi-dor, i gynnig cipolwg ar y straeon cymhleth sydd wedi’u cuddio o fewn pob creadigaeth.
Mae darn diweddaraf Julie, “Y Difa Gyfareddol: Adelina Patti,” yn benddelw, sy’n cyfleu hanfod y gantores opera enwog o oes Fictoria; mae Patti wedi’i phaentio mewn slip porslen ac ocsidau gan amlygu manylion y cerflun cywrain hwn. Mae’r cefn yn dangos y dull lapio, sy’n enghraifft o un o’r technegau hynaf. Mae ei choron wedi’i llunio’n ddyfeisgar o ffenestri ei chastell, gyda phenglogau ei pharotiaid a hyfforddwyd i sgrechian “cash” yn ei gwarchod, fel symbol o’r diffyg hawliau a wynebai menywod yn y cyfnod hwnnw. Mae tlysau’n rhaeadru i lawr ei hwyneb, gan gynrychioli’r ffrog ddiemwnt eithafol yr oedd hi’n ei gwisgo.
Trwy’r manylion meddylgar hyn, mae Julie yn plethu naratif sy’n talu teyrnged i’r ffigwr hanesyddol, tra’n gwahodd gwylwyr i dreiddio i fyd rhyfeddol lle mae ysmaldod a realiti yn cydblethu.

Seren Trodden
Dyn Piano
Mae Seren yn astudio Crefftau Dylunio yng Ngholeg Celf Abertawe. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio gydag ystod o ddeunyddiau gwahanol – gwrthrychau wedi’u darganfod, ffurfiau naturiol, cardbord, ffabrigau, papur, plastig, yn ogystal â chyfryngau crefft mwy traddodiadol fel gwydr. Iddi hi, mae’r broses greadigol yn aml yn dechrau gyda chasglu gwrthrychau, rhai’n gysylltiedig, eraill yn ymddangos ar hap; gall y deunyddiau, y ffurfiau a’r gweadau o’r eitemau hyn ddod â’u hysbrydoliaeth a’u cymhelliant eu hunain i greadigrwydd. Mae hi’n cael ei hysbrydoli i raddau helaeth gan greaduriaid o bob math, o fyd natur a rhai wedi’u dyfeisio. Ei hangerdd yw llunio gwrthrychau y mae pobl am eu harchwilio’n agosach, a fydd yn addurno gofodau ac yn cael eu defnyddio neu eu gwisgo. Mae hi hefyd wedi’i swyno gan y grefft o wneud pypedau a symudiadau mecanyddol.
Mae’r Dyn Piano yn ffigwr torso tebyg i byped o gerddor neuadd gerddoriaeth, wedi’i wneud yn gyfan-gwbl o hen gydrannau piano, i gyd wedi’u cysylltu a’u hanimeiddio â llinyn pysgota. Roedd cydrannau pren wedi’u datgymalu o’r offeryn cerdd mawr hwn gyda’u ffurfiau rhyfedd a’u honglau yn fan cychwyn perffaith ar gyfer creu’r ‘cerddor’ hwn, gan gyfeirio’n gylchol yn ôl at darddiad gwahanol rannau’r Dyn Piano.