Maker

Emma Lou Andrews Gwobr Jane Phillips | Galwad Agored

28th March 2026 - 23rd May 2026

Mae Oriel Mission a Gwobr Jane Phillips yn falch o gyhoeddi mai enillydd Gwobr Jane Phillips | Y Gwneuthurwr 2026 yw Emma Lou Andrews.

Mae Emma Lou Andrews yn artist sy’n byw yng Nghaerffili. Mae ei hymarfer yn archwilio themâu llawenydd a bodlonrwydd, gan dynnu ysbrydoliaeth o leoliadau dan-do ac yn yr awyr agored. Trwy ddarlunio adar ac anifeiliaid, ynghyd ag ailadrodd ysgafn o batrymau wedi’u
hysbrydoli gan gwiltiau o’i chartref, mae Emma’n archwilio’r berthynas rhwng perthyn a chysylltiad yn y byd domestig a naturiol; a sut mae hyn yn teimlo iddi hi. Mae ei phroses greadigol yn cynnwys adeiladu haenau o acrylig wedi’u teneuo, ac yna gorffen darnau â phaent olew, gan greu cyferbyniad mewn gwead a llewyrch.


Trwy gymorth Gwobr Jane Phillips.
Gweinyddir gan Oriel Mission.