Maker

Emily Jones

6th September 2025 - 1st November 2025

Artist ceramig yw Emily Jones. Mae ei gwaith yn cyfuno archwilio deunyddiau a sensitifrwydd dwfn i’r byd naturiol. Mae ei diddordeb mewn gwydredd wedi sbarduno ymchwiliad parhaus i arwynebau, trawsnewid a hydeimledd. Yn ystod ei hastudiaethau yn y brifysgol, ymgollodd ym mhob agwedd ar serameg – o siapio clai ar droell crochenydd i alcemi cemeg gwydredd.

Datgelodd ei thraethawd ymchwil ar fiomorffedd fod pobl yn profi manteision iechyd mesuradwy nid yn unig drwy gyswllt uniongyrchol â natur, ond hefyd drwy ddod i gysylltiad â phatrymau, lliwiau a gweadau sy’n eu hatgoffa o fyd natur. Mae’r ddealltwriaeth hon yn parhau i lywio ei chyfeiriad creadigol, wrth iddi geisio cyfleu hanfod y byd naturiol drwy wydredd.

Mae ei chyfres ddiweddaraf yn astudiaeth o natur anrhagweladwy dan reolaeth, sy’n cyfuno cemeg gwydredd â dynameg ddigymell yr odyn i gynhyrchu arwynebau organig sy’n esblygu. Caiff pob llestr maint llaw ei daflu a’i drimio’n ofalus, a’i ddefnyddio fel cynfas i’r gwydredd ymateb a thrawsnewid, sy’n gwahodd cysylltiad tawel, cyffyrddol rhwng y gwrthrych, y gwyliwr a’r amgylchedd naturiol.


Gyda chefnogaeth Gwobr Jane Phillips.

Gweinyddir gan Oriel Mission.

Mewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn 2025, dewisodd Oriel Mission, ar ran Gwobr Jane Phillips, Emily Jones—myfyriwr BA(Anrh) Crefftau Dylunio—ar gyfer y Wobr Crefft. Cytunwyd bod Emily wedi datblygu corff cywrain o waith crefft; gyda chysyniad gwreiddiol; wedi cymhwyso syniad(au); wedi arddangos sgiliau creu; a bod uniondeb i’r darnau gorffenedig o waith.

Y Gwneuthurwr yw ein lle pwrpasol ar gyfer talentau newydd ac rydym yn falch o arddangos gwaith Emily.