Y Sgrin

Y Chwarel / The Quarry Abby Poulson

05/18/2022 - 06/25/2022

Mae Y Chwarel yn ymateb i dirwedd gudd dwy chwarel wledig yng Nghymru sydd yn aml yn cael ei hanghofio, y safle cyntaf yn cynnwys calchfaen sydd i’w gael yn y fro lle magwyd yr artist a’r ail yn cynnwys llechi sydd i’w cael yn yr ardal lle mae’r artist yn byw ar hyn o bryd.

Yn mentro o dan, uwchben a chyda’r ddaear, gan ddefnyddio fideo, sain a delweddau llonydd, mae’r artist yn ymateb i’r chwareli a’u cyffiniau fel lleoedd i enaid gael llonydd, wrth gydnabod eu swyddogaeth yn y gorffennol fel cloddfeydd cerrig adeiladu. Mae beth oedd ar un adeg yn dir anhygyrch lle bu perygl a llygredd bellach wedi’i adael a’i ddychwelyd. Tir segur, gofod natur.