Yr Oriel
100 mlynedd o Glenys Cour Arddangosfa
02/03/2024 - 05/04/2024
Mae’n bleser gan Oriel Mission gyflwyno arddangosfa i ddathlu 100 mlynedd o Glenys Cour.
“Peintiwr, gwneuthurwr printiau, artist collage a gwydr lliw, bardd, athro, pencampwr – llysgennad dros Gymru. Bydd atgofion eithriadol, aml-haenog a diddorol ar ei hôl. Mae Glenys wedi cyffwrdd a chyfoethogi cynifer o fywydau – cenedlaethau o fyfyrwyr, artistiaid a dylunwyr, ymwelwyr ag arddangosfeydd a ffrindiau. Mae hi wedi rhoi lliw i’n bywydau ni i gyd.”
– Sally Moss
Agoriad arddangosfa: 11yb – 5yp, dydd Sadwrn 03 Chwefror 2024

“Lliw yw fy mywyd – gallwn i fwyta lliw”
Sgwrs gan Sally Moss yn Oriel Mission, Abertawe yn ystod arddangosfa “100 mlynedd o Glenys Cour | A 100 years of Glenys Cour”
Dydd Iau, 29fed Chwefror 2024 am 6:30yh a Dydd Sadwrn 2ail Mawrth 2024 am 2yb

Ganed Glenys yn Abergwaun yn 1924 a chafodd ei magu yng nghymunedau glofaol Cwm Rhymni. Bu’n astudio o dan Ceri Richards yn Ysgol Gelf Caerdydd ac ar ddiwedd y 1940au daeth i addysgu yn Abertawe lle cyfarfu â’r cerflunydd, y diweddar Ron Cour, a’i briodi. Bu’r ddau’n athrawon yn Ysgol Gelf Abertawe, Glenys, yn bennaf yn yr Adran Gwydr Lliw fyd-enwog. Cyfrannodd at fyd ehangach Celf yng Nghymru drwy Grŵp De Cymru (y Grŵp Cymreig erbyn hyn), y WWAA, Cyfeillion Glynn Vivian a Gweithdy Celf Abertawe. Cynhaliwyd Arddangosfa Ddethol yn 2017 yn Oriel Gelf Glynn Vivian, wedi’i churadu gan y diweddar Mel Gooding. Erbyn hyn, mae Glenys yn 100 oed, yn peintio’n ddyddiol yn ei stiwdio gartref ac mae’n cael ei hysbrydoli gan y golau a’r golygfeydd newidiol o’i ffenestri sy’n wynebu’r môr. Mae ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus. Cafodd MBE am ei gwasanaeth i gelfyddydau gweledol yn 2020.


Delwedd: The perfume of flowers, Glenys Cour.
