Event
Sgwrs Artist | Merched ar Lestri Lowri Davies ac Elinor Gwynn
06/07/2025 - 06/07/2025
11yb, Dydd Sadwrn 7fed Mehefin 2025.
AM DDIM | Llefydd yn brin, bwcio’n hanfodol.
Wrth i ni agor arddangosfa Merched ar Lestri yn Oriel y Mission dewch i wrando ar yr artist serameg Lowri Davies a’r bardd Elinor Gwynn yn sgwrsio am y profiad o gydweithio ar y prosiect hynod hwn. O’r syniadau cychwynnol i’r llwyfannu terfynol cawn ddysgu mwy am brosesau creadigol Lowri ac Elinor, yr heriau a’r cyfleoedd a gododd yn ystod y prosiect, ac am y modd y mae Merched ar Lestri wedi dylanwadu ar grefft a gyrfaoedd y ddwy ohonyn nhw.
Nodir bydd y digwyddiad hwn yn Gymraeg yn bennaf. Bydd y Sgwrs yn cael ei recordio ac fe fydd hwn i’w gael yn ddwy-ieithog.
Am Merched ar Lestri
Cyflwyna’r ceramegydd Lowri Davies a’r bardd Elinor Gwynn profiad dweud stori sy’n ymblethu cerameg a geiriau’n weledol.Mae Merched ar Lestri yn dathlu bywydau saith merch, oll â chysylltiad dwys â Chymru ac o ardaloedd, oedrannau a chefndiroedd amrywiol ar draws ein gwlad.
Portreadau sydd yn adrodd hanesion unigryw y merched yma yw Merched ar Lestri – gyda rhai ohonyn nhw’n adnabyddus ac eraill yn llai cyfarwydd.
Curadwyd gan Sioned Phillips.
Delwedd gan: Lisa Heledd Jones
![]()